Mae cynllun sy’n gosod allan sut y bydd Cyngor Sir Ddinbych a’i bartneriaid yn gweithio gyda’i gilydd i wella iechyd a lles plant a phobl ifanc wedi cael y golau gwyrdd.
Fe weithredir Cynllun Plant a Phobl Ifanc Sir Ddinbych gan Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir Ddinbych sy’n cynnwys cynrychiolwyr y Cyngor, addysg bellach, sefydliadau iechyd, yr heddlu, profiannaeth, Tîm Troseddau’r Ifanc a’r sector wirfoddol.
Mae’r Cynllun yn gosod allan sut y bydd Partneriaeth Planc a Phobl Ifanc yn gweithio tuag at ei amcanion craidd:
•Dysgu cynnar, iechyd a lles i blant 0-7 oed
•Presenoldeb a chyraeddiadau gwell yn yr ysgol
•Sicrhau fod gan bob person ifanc y medrau ar gyfer addysg bellach a chyflogaeth
•Help i gael bywyd iach ac i ymarfer mwy
•Cefnogaeth dda i blant sydd angen gofal ychwanegol
•Cyfleoedd chwarae a chwaraeon gwell a’r cludiant i fynd yno
•Mwy o gyfleoedd i blant a phobl ifanc gael dweud eu barn
•Mwy o gartrefi diogel, cynaliadwy a fforddiadwy
•Teimlo’n saff yn y cartref, yn yr ysgol ac yn y gymuned
•Helpu’r rheiny a effeithir gan dlodi difrifol a pharhaus
•Cydweithio’n well
Meddai’r Cynghorydd Morfudd Jones, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc: "Mae’n hanfodol bod aelodaeth y Bartneriaeth yn adlewyrchu’r angen am wasanaethau integredig, gweithio ar y cyd, cydleoli staff a chronni adnoddau os ydym am ddargludo gwasanaethau er budd ein plant a’n pobl ifanc.
"Mae Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc wedi ymgynghori’n helaeth ar y Cynllun a gytunwyd ac fe adlewyrchwyd barn yr ystod eang o unigolion a gyfrannodd, yn y ddogfen.”

Rhoi adborth ar y tudalen hon