| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Cyflwyniad i Flaenoriaethau Cyngor Sir Ddinbych

Cyflwyniad i Flaenoriaethau Cyngor Sir Ddinbych
Arweinydd - Hugh Evans

 

Pam fod angen i ni osod blaenoriaethau’r Cyngor?
Os ydym i wneud newidiadau gwirioneddol mae angen i ni wneud llai o bethau, ond eu gwneud yn dda.  Mae Cynghorau sydd â ffocws cynaliadwy ar yr hyn sy’n cyfri yn fwy tebygol o wella na’r rhai sy’n gosod blaenoriaethau ac yna’n methu cadw ar y llwybr drwy’r newidiadau.  Blaenoriaethu yw’r ffordd y bydd cynghorau’n penderfynu lle i ganolbwyntio eu hadnoddau prin, yn cynnwys amser rheoli ac ymdrech.  Mae’r gwaith dyddiol o gyfarfod â dyletswyddau statudol y cyngor yn parhau, ond mae blaenoriaethau cyngor yn pwyntio tuag at y meysydd allweddol y mae’r cyngor am eu newid.

Sut y dewiswyd blaenoriaethau y Cyngor?
Mae’r blaenoriaethau drafft isod wedi eu seilio ar arolygon gydag Aelodau, gwybodaeth o ymchwil ac ystadegau a gwybodaeth broffesiynol ein uwch swyddogion.  Rydym yn awyddus eich bod yn deall pam fod y materion hyn wedi eu dewis yn flaenoriaethau a’ch bod yn cael cyfle i roi eich barn i ni.  Gwyddom y byddai llawer ohonoch chi’n hoffi gweld gwelliannau mewn nifer o feysydd nad ydynt yn cael eu crybwyll yn benodol.  Drwy’r arolwg gyda’n Haelodau ac adborth gennych chi fe sicrhawn y gwneir gwelliannau i’r meysydd hyn er na fydd hyn o angenrheidrwydd drwy strwythur ein Bwrdd Gwella.  Isod mae yna drosolwg o’r blaenoriaethau a argymhellwn ac mae yna arolwg byr i chi ei chwblhau.  Os hoffech chi wybodaeth bellach yna dilynwch y cysylltiadau perthnasol ar y wefan.

Blaenoriaeth 1 – Moderneiddio Addysg
Yn Archwiliad Estyn o Gyngor Sir Ddinbych a gyhoeddwyd ym Medi 2007 cafwyd sylwadau ar ansawdd gwasanaethau addysg o fewn y Sir.  Mae’r rhaglen Moderneiddio Addysg yn cwmpasu tair ffrwd o waith: yr ymateb i ddau archwiliad Estyn yn canolbwyntio ar godi cyflawniadau disgyblion a gwella gwasanaethau cynnal ieuenctid a’r rhaglen i fwrw ymlaen ag argymhellion adroddiad Addysg Caergrawnt fel bod ysgolion y sir yn cyfarfod ag anghenion Cymru’r unfed ganrif ar hugain.

Am ragor o wybodaeth am flaenoriaeth 1 cliciwch yma

Blaenoriaeth 2 - Ymateb i newid demograffig
Mae rhagamcaniadau poblogaeth yn dangos fod y rhan fwyaf ohonom yn byw’n hirach, sy’n newyddion positif iawn.  Wrth i ni heneiddio bydd llawer ohonom yn gallu cymryd rhan lawn ac actif yn y gymdeithas ac fe hoffem gael y cyfle i barhau neu hyd yn oed newid ein gyrfa.  Fe fydd arnom eisiau cadw’n hannibyniaeth a’n rheolaeth dros ein bywydau a bod ag incwm digonol a chyrchiad i gartrefi gweddus.  Mae angen i’r Cyngor sicrhau ei fod yn rhagweithiol yn cynllunio ar gyfer poblogaeth sy’n heneiddio, gan ganiatáu i bobl weithio a dysgu cyn hired ag y dymunent, ac i wneud cyfraniad actif unwaith y byddant wedi ymddeol.  Mae angen i ni gydnabod hefyd y bydd pobl yn byw’n hirach yn golygu y bydd ar fwy ohonom ni angen cyrchiad i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a chefnogaeth o ansawdd a bydd angen i’r Cyngor wneud y darpariaethau ariannol angenrheidiol i sicrhau y gall ymdopi â dibyniaeth gynyddol.  Mae angen i ni hefyd gynllunio fel y gallwn gyfarfod ag anghenion nifer gynyddol o blant gydag anghenion arbennig a newidiadau eraill yn ein poblogaeth fel mewnfudiad o rannau eraill o’r Undeb Ewropeaidd neu ymhellach.

Am ragor o wybodaeth am flaenoriaeth 2 cliciwch yma


Blaenoriaeth 3 - Adfywio
Mae’r Cyngor yn y safle orau i arwain ar adfywio Sir Ddinbych.  Mae adfywio ac adnewyddu’n golygu datblygu neu ail-ddatblygu, pob agwedd ar amgylchedd Sir Ddinbych, o dai a rhwydweithiau cludiant, i fusnes a swyddi, yn ogystal â siopa a chyfleusterau adloniant.  Nod y Cyngor yw lleihau’r bwlch rhwng ardaloedd mwyaf difreintiedig Sir Ddinbych a gweddill y Sir.  Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod y mesur swyddogol ar gyfer amddifadiad yng Nghymru a gyhoeddwyd ar Orffennaf 9, yn dangos fod chwe ardal yn Sir Ddinbych yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru.  Fe aseswyd tair ardal yn Y Rhyl i fod yn y 5 ardal fwyaf difreintiedig yn y wlad, gan ddangos fod angen ymdrech ddwys.

Am ragor o wybodaeth am flaenoriaeth 3 cliciwch yma

Blaenoriaeth 4 – Ffyrdd ac Amddiffynfeydd rhag Llifogydd
Yn wahanol i bob ased arall, nid oes gennym ddewis ynglŷn â lleoliad a’r angen am yr asedau hyn.  Y sialens yn syml yw darparu adnoddau i sicrhau eu bod yn cael eu cynnal yn briodol a’u hadolygu dros amser.  Cyfrifoldeb adran sengl yw’r asedau hyn ac felly nid oes angen i’r flaenoriaeth hon gael cefnogaeth  Fwrdd Gwella Corfforaethol.

Am ragor o wybodaeth am flaenoriaeth 4 cliciwch yma

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0