| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
BLAENORIAETH 2 – YMATEB I NEWID DEMOGRAFFIG

BLAENORIAETH 2 – YMATEB I NEWID DEMOGRAFFIG

 

Beth yw newid demograffig?

Demograffi yw’r ffordd y nodweddir ein poblogaeth mewn perthynas â chenedl, oed, incwm etc.  Fe nodwyd newid demograffig fel sialens sylweddol yn genedlaethol ac yn lleol a hynny gan fwyaf oherwydd fe ragamcennir bod disgwyliad oes pobl yn mynd i gynyddu’n sylweddol dros yr ugain mlynedd nesaf.

Rhagamcanion y boblogaeth

Mae rhagamcanion poblogaeth yn darparu amcangyfrif o faint y boblogaeth yn y dyfodol, ac maent yn seiliedig ar ragdybiaeth am enedigaethau, marwolaethau ac ymfudiad.  Mae rhagamcanion yn dangos dim ond yr hyn a all ddigwydd pe byddai tueddiadau diweddar yn parhau.  Rhagamcenir y bydd cyfanswm poblogaeth Sir Ddinbych yn uwch na’r cyfartaledd o ran twf poblogaeth gyda mwy o fenywod na gwrywod yn y Sir.  Mae Sir Ddinbych yn un o ddim ond 8 o awdurdodau lleol lle y disgwylir gweld mwy o farwolaethau na genedigaethau yn y cyfnod hyd at 2031. 

Heb ymfudiad mewnol, byddai yna boblogaeth sy’n dirywio yn Sir Ddinbych.  Ond gyda’r disgwyl y bydd mwy o bobl yn symud i mewn i Sir Ddinbych nag yn gadael bob blwyddyn disgwylir i’r boblogaeth gynyddu.   Hefyd fe ddisgwylir i bobl fyw’n hirach gan godi o 79.1 o flynyddoedd yn 2005/06 i 83 yn 2030/31.  Rhagamcenir y bydd nifer y plant yn Sir Ddinbych yn cynyddu rhwng 2011 a 2026 er mae tueddiadau diweddar wedi gweld nifer y plant a’r bobl ifanc yn lleihau. 

Rhagamcenir y bydd nifer y bobl o oedran gwaith yn cynyddu tan 2026 pan fydd yna ostyngiad bychan.  Rhagamcenir y bydd nifer y pensiynwyr yn Sir Ddinbych yn cynyddu’n barhaus oherwydd bod pobl yn byw’n hirach a heneiddiad grwpiau mwy, fel y rhai a anwyd ar ôl yr Ail Ryfel byd.  Rhagamcenir y bydd cymhareb dibyniaeth o fewn Sir Ddinbych yn cynyddu dros y cyfnod rhagamcanu o oddeutu 730 y fil o bobl o oedran gwaith i 820 y fil o bobl o oedran gwaith.

Mae yna amrywiaeth gynyddol yn Sir Ddinbych o ganlyniad i ymfudo o wledydd eraill, yn enwedig o Ddwyrain Ewrop, ac ymhellach fel y Philippines.

Beth mae hyn yn ei olygu i Gyngor Sir Ddinbych?

Nid yw rhagamcanion poblogaeth yn caniatáu effeithiau polisïau llywodraeth leol neu ganolog ar lefelau poblogaeth y dyfodol, dosbarthiad a newid.  Er enghraifft, bydd ein Cynllun Datblygu Lleol yn tywys twf a datblygiad y dyfodol o fewn Sir Ddinbych. 

Mae’r Cyngor yn cydnabod fod angen iddo ystyried yn ofalus anghenion poblogaeth Sir Ddinbych wrth gynllunio math a dargludiad gwasanaethau yn y dyfodol ac mae wedi nodi “Ymateb i Newid Demograffig’ yn un o’i flaenoriaethau allweddol.  Bydd gwaith ar y flaenoriaeth hon yn gyfrifoldeb  Bwrdd y Rhaglen Newid Ddemograffig.


Bwrdd y Rhaglen Newid Demograffig

Amcanion y Bwrdd:-

  • I herio a chraffu rhagamcanion y boblogaeth ar gyfer Sir Ddinbych i sicrhau eu bod yn gadarn 
  • I gynhyrchu pecyn cymorth neu fodel i werthuso’r effaith i’r Cyngor o ragamcanion y boblogaeth mewn perthynas â dyluniad a dargludiad gwasanaethau’r dyfodol sy’n ystyried yr angen i gydbwyso cyllidebau yng nghyd-destun cyfyngiadau parhaus ar adnoddau
  • I weithio gyda sefydliadau partner i sefydlu gwasanaethau sy’n cyfarfod â sialens newid demograffig ac yn gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o adnoddau
  • I gynhyrchu cyfres o argymhellion i’r Cyngor am y ffordd orau i ymateb i’r materion
  • I ddatblygu a gweithredu Cynllun Gweithredu sy’n sicrhau fod y Cyngor yn cyfarfod yn effeithiol ag anghenion a disgwyliadau poblogaeth Sir Ddinbych yn y dyfodol.
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0