BLAENORIAETH 3 – ADFYWIO
Beth yw adfywio?
Mae adfywio ac adnewyddu’n golygu datblygu neu ail-ddatblygu pob agwedd ar amgylchedd Sir Ddinbych, o dai a rhwydweithiau cludiant, i fusnes a swyddi, yn ogystal â siopa a chyfleusterau adloniant. Nod y Cyngor yw lleihau’r bwlch rhwng ardaloedd mwyaf difreintiedig Sir Ddinbych a gweddill y Sir.
Economi, swyddi a chludiant Sir Ddinbych
Mae ffigwr diweithdra cyffredinol y Sir yn gymharol isel sef 2.7% er ei fod yn uwch na chyfartaledd Cymru a’r DU. Ond mae yna rai problemau gydag economi Sir Ddinbych gan fod yna nifer uwch o breswylwyr sy’n anactif yn economaidd a chaiff y mater hwn ei waethygu gan boblogaeth sy’n heneiddio. Mae cyfartaledd incwm teuluoedd yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol; mae mwy o bobl yn mynd allan o’r sir i weithio nag sy’n dod i mewn i’r Sir i weithio.
Mae niferoedd mawr o breswylwyr Sir Ddinbych yn cymudo i swyddi yn Sir Fflint a Chonwy. Er bod yna angen heb ei gyflawni am dir ar gyfer cyflogaeth, mae llawer o’n safleoedd cyflogaeth yn aros heb eu datblygu a gallai hyn fod oherwydd materion seilwaith. Mae perfformiad Y Rhyl fel canolfan manwerthu isranbarthol wedi bod yn dirywio am sawl blwyddyn ac fe nodwyd rhan helaeth o ganol y dref yn ardal ar gyfer buddsoddiad sylweddol. Mae Llangollen, Corwen a Dinbych yn colli incwm manwerthu bwyd i drefi cymdogol ac mae angen gwaith pellach ar anghenion manwerthu yn yr ardaloedd hyn. Mae Sir Ddinbych yn sir sy’n ddibynnol i raddau helaeth ar geir a lleoli datblygiadau mawr yng ngogledd y Sir, yn agos at yr A55 neu Reilffordd Gogledd Cymru sy’n debygol o fod yn fwyaf cynaliadwy.
Proffiliau’r ardal
Amcan y Cyngor yw sicrhau ei fod yn deall y materion sy’n wynebu cymunedau lleol Sir Ddinbych a bod ganddo’r wybodaeth i ymateb yn effeithiol. Bydd y Cyngor yn datblygu Proffiliau Ardal sy’n rhoi darlun o ansawdd bywyd a darpariaeth gwasanaeth mewn ardal leol. Bydd Proffiliau Ardal yn helpu’r cyngor i nodi lle mae’r angen mwyaf am welliant yn lleol a bydd yn cefnogi adfywiad y Sir a fydd yn gyfrifoldeb i Fwrdd y Rhaglen Adfywio.
Bwrdd y Rhaglen Adfywio
Amcanion:-
- I ymgynghori gyda chymunedau i ddarganfod eu blaenoriaethau allweddol drwy gynghorau tref a chymuned
- I gynhyrchu Proffiliau Ardal a Strategaethau Tref a Chefnwlad gyda’r bwriad o adfywio cymunedau
- I nodi a lleihau’r bwlch rhwng ardaloedd mwyaf difreintiedig Sir Ddinbych a gweddill y Sir
- I asesu effaith dirwasgiad a chostau cynyddol tanwydd ac ynni ar y gweithrediadau a gynlluniwyd gan y Cyngor i adfywio’r Sir
- I weithio gyda phartneriaid i wneud gwelliannau i weithgareddau a phrosesau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, yn lleihau dyblygu ac yn gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o adnoddau
- Sefydlu a gweithio gyda phartneriaeth adfywio sydd â sail ehangach


Rhoi adborth ar y tudalen hon