07/31/2008 - Dirwyo Gŵr o’r Rhyl am dwyll budd-daliadau
Roedd Tîm Twyll Budd-daliadau Sir Ddinbych yn llwyddiannus, wrth weithio gydag Adran Gwaith a Phensiynau, yn sicrhau euogfarn am dwyll budd-daliadau yn Llys Ynadon Prestatyn ar Orffennaf 29.
Dygwyd yr achos yn erbyn Brian Harris, 69 Gwynfryn Ave, Y Rhyl.
Cafwyd Brian Harris yn euog ar ddau gyhuddiad o fethu â hysbysu Adran Gwaith a Phensiynau o newid yn ei amgylchiadau a methu â hysbysu Cyngor Sir Ddinbych o’r amgylchiadau hynny.
Nid oedd Mr Harris wedi hysbysu o’i gyflogaeth gyda’r canlyniad o ordaliad Budd-dal Tai o £4,628.26, Budd-dal Treth Cyngor o £1,088.42, a Chredyd Pensiwn o £2,614.56
Cafodd ei ddedfrydu i 100 awr o Wasanaeth Cymunedol a’i orfodi i dalu £75 mewn costau.

Rhoi adborth ar y tudalen hon