Daeth Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir (Cytundebau Partneriaeth) (Cymru) 2007 i rym ym mis Rhagfyr 2007. Mae’r rheoliadau yn rhoi dyletswydd ar yr holl gynghorau yng Nghymru a chyrff llywodraethol ysgolion a gynhelir gan gynghorau i lunio Cytundeb Partneriaeth.
Mae’n bleser gennym gyflwyno Cytundeb Partneriaeth Cyngor Sir Ddinbych sy’n nodi gwybodaeth hanfodol bwysig ynghylch sut y byddwn ni fel Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth gyda’n ysgolion.
Mae addysg yn brif flaenoriaeth yn Sir Ddinbych ac mae’r ddogfen bolisi hon yn cynrychioli’r cam cyntaf o ran sicrhau’r gorau i’n plant a’n pobl ifanc. Mae’n nodi’r prosesau ar gyfer arferion gwaith ysgolion, llywodraethwyr a swyddogion y Cyngor, fel bod mwy o dryloywder a mwy o ymddiriedaeth rhwng pawb.
Mae’r Gwasanaethau Addysg yn Sir Ddinbych yn datblygu’n gyflym, felly rydym wedi ymrwyno i adolygu’r Polisi yn flynyddol i ganiatáu cyfle i’r holl randdeiliaid weithio gyda’r ddogfen yma am flwyddyn ac yna ddylanwadu ar adolygu’r ddogfen.


Rhoi adborth ar y tudalen hon