Gwnaeth dros 200 o artistiaid o dros y byd gais am y briff i gynhyrchu tri gwaith celf cyhoeddus ym Mhrestatyn, prosiect allweddol ar gyfer y dref sydd wedi bod yn llwyddiannus yn denu grant Cyngor Celfyddydau Cymru o £72,000.
Mynegwyd diddordeb yn y prosiect gan artistiaid lleol i Brestatyn yn ogystal â’r rheiny o gyn belled i ffwrdd â Singapore. Mae'n brosiect cydbartneriaeth rhwng Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Tref Prestatyn, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chyfeillion Rheilffordd Prestatyn.
Anfonodd cyfanswm o 57 o artistiaid unigol/consortia eu portffolio gwaith i mewn. Drwy broses rhestr fer, fe ddewiswyd naw o artistiaid i ddatblygu dyluniadau neu argaenwaith.
Bydd y gwaith celf fel ‘mynedfeydd’ i ganol y dref. Mae’r comisiwn cyntaf (dau ddarn o gelfyddyd) i’w lleoli bob ochr i orsaf Prestatyn ar y Stryd Fawr ac ar Ffordd Bastion i groesawu teithwyr sy’n defnyddio’r brif lein o Lundain i Gaergybi i ymweld â’r dref.
Fe leolir gwaith arall wrth ymyl promenâd Traeth Canolog Prestatyn - man cychwyn Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa sy’n 177 milltir ar ei hyd - ac wrth ymyl llwybr beicio SUSTRANS. Mae’r ardal yma wedi denu buddsoddiad adfywio ar raddfa fawr yn ddiweddar a bydd cyfnod diwethaf y prosiect yn ategu’r gelfyddyd.
Fe leolir y trydydd darn o gelfyddyd yng Ngerddi Hillside ar hyd y llwybr wrth iddo ddisgyn o Fryniau Clwyd (Ardal o Harddwch Naturiol Arbennig) tuag at dref Prestatyn.
Bydd y dyluniadau/argaenwaith yn cael eu harddangos yn gyhoeddus yn llyfrgell Prestatyn o Awst 15 i 29. Gwahoddir y cyhoedd i ddod i weld y dyluniadau a rhoi eu sylwadau.
Cynhelir cyfweliadau gyda’r artistiaid yn gynnar ym mis Medi ac fe osodir y gwaith yn 2009.


Rhoi adborth ar y tudalen hon