Bydd staff Cyngor Sir Ddinbych yn cael y cyfle i sefyll prawf iechyd a diogelwch sylfaenol a gydnabyddir gan y diwydiant adeiladu ar Awst 13.
Mae Gwasanaethau Adeiladu wedi trefnu uned brofi symudol i ddod i swyddfeydd y cyngor yng Nghaledfryn yn Ninbych. Mae yna nifer o gyfrifiaduron cyffwrdd y sgrin yn yr uned fel y gall oddeutu 70 o’r staff gymryd y Prawf Iechyd a Diogelwch Medrau Adeiladu'r CITB (Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu) drwy gydol y dydd.
Meddai Nic Jones, Uwch Syrfëwr Iechyd a Diogelwch gyda’r Gwasanaethau Adeiladu:
"Bydd y prawf hwn yn galluogi staff technegol i gael eu cardiau Cynllun Ardystio Medrau Adeiladu sy’n fath o basbort iechyd a diogelwch. Yn wir, mae llawer o gontractwyr yn gofyn am y prawf hwn o gymhwyster sylfaenol mewn iechyd a diogelwch cyn y byddant yn gadael i unrhyw un fynd ar safle gwaith adeiladu.”
Ychwanegodd, "Unwaith y bydd gan y staff technegol i gyd y cymhwyster Cynllun Ardystio Medrau Adeiladu hwn, byddwn yn gallu dangos i gontractwyr ein cadwyn gyflenwi fod yr awdurdod yn enghraifft o ymarfer gorau."
Dylai unrhyw un sydd am wybod mwy am y fenter iechyd a diogelwch hon gysylltu â Nic Jones ar 01824 706761 neu ymweld â gwefan CITB:
www.citb-constructionskills.co.uk

Rhoi adborth ar y tudalen hon