| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
08/04/2008 - Diweddariad ar ddiferiad carthion ar draeth Y Rhyl

Mae traethau’r Rhyl a Phrestatyn wedi cael eu datgan yn glir ar gyfer trochi’n dilyn diferiad carthion dros y penwythnos.

Mae Swyddog Ansawdd Dŵr Dŵr Cymru yn awr wedi cyhoeddi datganiad i ddweud fod y dŵr yn saff ar gyfer trochi ond bydd profion gan y sefydliad, Cyngor Sir Ddinbych ar Asiantaeth yr Amgylchedd yn parhau yn ystod y dyddiau nesaf i sicrhau ei burdeb.

Mae Sir Ddinbych yn awr yn galw ar Ddŵr Cymru i sicrhau na fydd y broblem yma’n digwydd eto ac mae’n annog y sefydliad i roi manylion am unrhyw gynlluniau i osgoi'r fath ddigwyddiadau yn y dyfodol yn ogystal â manylion am unrhyw gynlluniau i ariannu gwelliannau i gyfarpar gorsafoedd pwmpio ar hyd yr arfordir.

Meddai Aelod Arweiniol y Cabinet dros Adfywio, y Cynghorydd David Thomas: Roedd hwn yn ddigwyddiad siomedig iawn ar anterth tymor yr haf.

Rydym yn gobeithio gweithio’n agos gyda Dŵr Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn yr wythnosau i ddod i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto a byddaf yn gofyn am adroddiad llawn ar y digwyddiad gan Ddŵr Cymru.

Cadarnhaodd swyddogion rheoli llygredd Sir Ddinbych fod gorsaf bwmpio gwastraff Dŵr Cymru yn Y Rhyl yn awr wedi ei thrwsio yn dilyn diffygion yn y cyfarpar ar nos Wener.

Dros y penwythnos fe olchwyd swm anhysbys o garthion i’r môr ar hyd traethlin Y Rhyl a Phrestatyn ac fe roddwyd rhybuddion i fyny i rybuddio pobl rhag trochi yn y dŵr llygredig nes y rhoddid hysbysiad pellach.


 

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0