| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
08/04/2008 - Gwario ar addysg: Sir Ddinbych yn symud i fyny

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi croesawu cadarnhad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru o gynnydd yng ngwariant y Cyngor ar ysgolion ar gyfer 2008-09.

Mae’r adroddiad ar gyllidebau a osodir gan awdurdodau lleol ar gyfer gwasanaethau addysg yn 2008-09 yn cadarnhau bod refeniw net addysg Sir Ddinbych yn uwch na’r asesiad sy’n seiliedig ar y dangosydd am y tro cyntaf.  Mae Sir Ddinbych yn un o ddim ond tri chyngor yng Ngogledd Cymru sy’n gwario dros yr asesiad sy’n seiliedig ar y dangosydd.

Ymysg yr uchafbwyntiau, mae’r adroddiad yn dangos:

-  fod gwariant refeniw net yn Sir Ddinbych wedi codi 5.6% yn 2008-09, y cynnydd uchaf yng Ngogledd Cymru ac yn llawer uwch na’r cyfartaledd Cymreig o 3.3%;
- fe gynyddodd gwariant gros ysgolion o 6.4% yn 2008-09, y cynnydd uchaf yng Nghymru;
- fod graddfa dirprwyo o 76.1% yn gyfartal uchaf â Chonwy yng Ngogledd Cymru, ac yn uwch na’r cyfartaledd Cymreig o 75.9%. Golyga hyn fod cyfran uwch o gyllidebau addysg yn cael ei ddirprwyo i gyrff llywodraethol ysgolion i benderfynu sut i’w gwario;
-  cyfanswm y gwariant y disgybl yw £4,910 ac mae wedi cynyddu o 7.6%, Dyma’r cynnydd cyflymaf yng Nghymru ac mae’n sylweddol uwch na’r cyfartaledd Cymreig o 4.8%. Mae’n rhoi’r cyngor yn 15fed o ran gwariant y disgybl tra’r oedd yn 19eg yn 2007-08;
- cyfanswm y gwariant dirprwyedig yw £3,736 y disgybl, sydd hefyd yn gosod y cyngor yn 15fed.

Meddai Arweinydd y cyngor a’r aelod arweiniol dros addysg, y Cynghorydd Hugh Evans, “Mae’n foddhaol iawn cael y cadarnhad hwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru o effaith y cynnydd yn ein gwariant ar ysgolion ac addysg.  Fe ymrwymodd y cyngor i flaenoriaethu addysg yr hydref diwethaf ac yr ydym wedi dargludo’r ymrwymiad hwnnw yn y gyllideb ar gyfer 2008-09.

"Gan ein bod yn awr yn gwario dros y lefel a dybiwyd yn yr asesiad gwariant safonol, gallwn ganolbwyntio gydag ysgolion ar sut y mae angen i berfformiad wella i adlewyrchu’r cynnydd yn yr ariannu.

"Mae ein gwariant y disgybl wedi neidio i fyny’r tabl, ac mae hyn i’w groesawu.  Ond mae ein gallu i gynyddu gwariant ar raddfa debyg mewn blynyddoedd i ddod yn cael ei rwystro’n ddifrifol gan lefel ariannu isel Llywodraeth Cynulliad Cymru, a fydd yn golygu cynnydd o ddim ond 2% y flwyddyn yn y grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru."

Rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag ysgolion i wneud y defnydd gorau o adnoddau ar gyfer pawb yn y blynyddoedd i ddod.


Nodiadau
Gellir gweld yr adroddiad llawn gan gyfarwyddiaeth ystadegol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar http://new.wales.gov.uk/topics/statistics/theme/loc-gov/educa/?lang=en

Yr asesiad sy’n seiliedig ar y dangosydd yw’r elfen o’r fformiwla asesiad gwariant safonol sy’n berthynol i addysg.  Ni fwriedir yr asesiad sy’n seiliedig ar y dangosydd i fod yn darged ar gyfer gwariant ond mae llawer o bobl yn ei gymharu â lefel y gwariant mewn gwirionedd.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0