| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
08/04/2008 - Arwerthiant teganau a threnau Llangollen yn ôl oherwydd y galw!

Yn dilyn llwyddiant arwerthiant cyntaf Teganau a Threnau Llangollen y llynedd, mae’r trefnwyr yn awr yn barod i groesawu’r rhai brwdfrydig i’r ail ddigwyddiad ym Mhafiliwn Rhyngwladol Brenhinol Llangollen ar Awst 17.
Mae pobl y stondinau’n dod o Gymru gyfan ac fe ddônt o gyn belled i ffwrdd â Manceinion, Birmingham a Dyfnaint i werthu ystod eang o deganau a threnau, hen a newydd.
Mae’r masnachwyr hefyd yn awyddus i brynu neu gyfnewid a dylai pawb sydd â diddordeb fynd i’w hatig i chwilio a hel y llwch oddi ar unrhyw deganau sydd wedi eu cuddio o’r golwg am flynyddoedd - fe allant fod yn werth mwy nag a dybiwch chi!
Dywedodd y trefnydd o Wlad yr Haf, Chris Dyer yr wythnos hon, “Fe gawsom sioe ardderchog yn Llangollen y llynedd a chafwyd mwynhad mawr gan y cyhoedd a’r masnachwyr fel ei gilydd.  Dyma un o’r lleoliadau gorau i ni ei defnyddio ac mae pawb yn edrych ymlaen at y diwrnod eto.”
Mae’r byrddau i gyd wedi eu harchebu ymlaen llaw ac fe ddisgwylir cynulliad mawr.  Ymholiadau: 01643 702757 neu 07966 694579

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0