| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
08/04/2008 - Arddangos Offa ym Mhrestatyn

Mae arddangosiad blodeuol newydd wedi ei ddylunio ac mae’n awr yn ei le ar ben y Stryd Fawr ym Mhrestatyn.

Mae’r arddangosiad yn darlunio’r Brenin Offa ar geiniog ac fe’i plannwyd allan gan aelodau o Dir y Cyhoedd Prestatyn.

Cymerodd pedwar dyn dair awr yn unig i gwblhau plannu’r gwely hwn sydd mewn lleoliad amlwg iawn yn y dref.

Meddai Alan Jackson, Arweinydd Tîm Tir y Cyhoedd Prestatyn a feddyliodd am y syniad ar gyfer yr arddangosiad, “Gwn fod taith Clawdd Offa’n boblogaidd ymysg twristiaid sy’n ymweld â’r dref.  Roedd hwn yn gyfle i Dir y Cyhoedd hyrwyddo hanes Offa a’r daith mewn lleoliad allweddol o fewn y dref.  Rwyf wedi cael adborth positif iawn gan bobl leol ac rwy’n siŵr y bydd yn gwneud i ymwelwyr stopio ac edrych.... ac efallai ofyn am fwy o wybodaeth o’r Ganolfan Groeso yn y dref ac ni all hyn fod yn ddim ond newyddion da!”

Mae Prestatyn newydd gael ei gwobrwyo â theilyngdod yng nghategori Tlws Tref Cystadleuaeth Genedlaethol Cymru yn ei Blodau 2008.  Mae Llangollen hefyd wedi ennill teilyngdod yng nghategori Tlws Tref Wledig Fechan.  Bydd y seremoni wobrwyo’n digwydd yn Venue Cymru ar Fedi 19, 2008.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0