| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
H M Stanley - Comisiwn Celf Gyhoeddus Dinbych
Funder's Logo - DCC, Cadwyn Clwyd, WAG

Mae Cyngor Sir Ddinbych hefo cymorth ariannol  Cadwyn Clwyd, yn chwilio am arbenigwr hefo profiad o sicrhau arian a rheoli prosiect comisiynu celf gyhoeddus lwyddiannus. 

Bydd y comisiwn yn cynnwys ymchwilio i'r posibilrwydd o reoli prosiect i atgyweirio cofgolofn H M Stanley, a leolir ar hyn o bryd yn Kinshasa, i gael mowld a chomisiynu replica i dref Dinbych. Bydd angen treulio peth amser  yn ymchwilio i gyfleoedd ariannu posib a sicrhau arian i wneud yr holl brosiect. Elfen ychwanegol o hyn fyddai ymchwilio i opsiynau eraill i gofio  H M Stanley yn Ninbych a Llanelwy a chwilio am unrhyw grantiau posibl.  Yr eil elfen yw rhoi dewis arall pe bai prosiect delw Kinshasa yn amhosibl neu yn rhy ddrud.

Trefnwyd cyllideb o £5,000 i gynnwys yr holl gostau.

Gweler y manylion prosiect i gael mwy o wybodaeth.

Y dyddiad cau yw 19 Medi 2008.

Ffoniwch: Joanna Douglass ar 01824 705648 neu e-bostiwch joanna.douglass@sirddinbych.gov.uk

H M STANLEY - COMISIWN CELF GYHOEDDUS :

Gwybodaeth Gefndir:

Fe ffurfiwyd grŵp coffa H M Stanley yn 2003 ac mae’n cynnwys aelodau o Gymdeithas Hanes Lleol Sir Ddinbych, Adfywiad Cyngor Sir Ddinbych, Llyfrgelloedd, swyddogion Celfyddydau a Diwylliant, Cyngor Tref Dinbych a Chyngor Dinas Llanelwy.  Cymaint yw’r gefnogaeth a’r diddordeb a ddangosir yn nhref geni H M Stanely fel bod yna alw am gof parhaol ac eitem o gelf gyhoeddus.    

Mae Cyngor Sir Ddinbych, gyda chefnogaeth ariannol gan Weithredu Cymunedol Gwledig Cadwyn Clwyd, yn ceisio arbenigwr gyda phrofiad o sicrhau ariannu a rheoli prosiect comisiynau celf gyhoeddus llwyddiannus.  Yn y lle cyntaf gofynion cynnar y comisiwn fydd ymchwilio dichonolrwydd trefnu atgyweiriadau i gerflun H M Stanley, sydd wedi ei leoli yn Kinshasa, i sicrhau mowld ac i gomisiynu replica ar gyfer tref Dinbych.  Mae ymholiadau cynnar ynglŷn â hyn wedi ennyn diddordeb brwd o fewn y Llysgenhadaeth a’r Cyngor Prydeinig yng Ngweriniaeth Ddemocratig y Congo ac maent wedi sicrhau cysylltiadau allweddol draw yno.  Y mae eto i’w ymchwilio a’i gostio os mai dyma’r ateb gorau i sicrhau darn o gelfyddyd gyhoeddus goffaol yn Ninbych.
(Fe ymgymerir â rhai dyletswyddau gweinyddol ac fe geir cymorth gyda sicrhau gofynion statudol gan swyddogion y Cyngor Sir).


Tasgau Allweddol:

Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio ynghyd â grŵp llywio H M Stanley a bydd yn gyfrifol am ddargludo’r prosiect:
 
I gynllunio, datblygu a rheoli dargludiad replica Cerflun H M Stanley yn Ninbych:

• Dilyn cysylltiadau a chryfhau’r cysylltiadau gyda Kinshasa ac ymchwilio’r cyweiriadau i/cost cerflun H M Stanley yn Kinshasa ac ystyried dichonolrwydd cymryd mowld.
• Adrodd casgliadau i Grŵp H M Stanley i’w hystyried.
• Costio’r prosiect cyfan, i gynnwys trwsio’r cerflun, cymryd mowld ac ail-greu’r cerflun yn Ninbych
• Ymchwilio ac argymell opsiynau gwahanol sy’n gost effeithiol i alluogi cyfleoedd grant uchaf, un ai gyda’r cysylltiadau gyda Dinbych, tref ei eni a neu ei blentyndod diweddarach yn Llanelwy
• Ymchwilio i gyfleoedd ariannu posibl a sicrhau’r ariannu angenrheidiol ar gyfer y prosiect cyfan.
• Fforio cyfleoedd cyhoeddusrwydd a hawliau darlledu i uchafu hyrwyddiad Dinbych fel ffynhonnell ariannu posibl ar gyfer y prosiect. 
• Archwilio mesuriadau uchder i’r cerflun, sgôp a’r defnydd o ddeunyddiau gan ystyried effaith erydiad tywydd a fandaliaeth posibl. 
• Ystyried ac ymgynghori ar y lleoliad ar gyfer y cerflun a gweithio gyda swyddogion perthnasol Cyngor Sir Ddinbych i gael y caniatâd angenrheidiol a chynllunio os oes angen.
• Gweithio gyda’r tîm Adfywiad Gwledig yng Nghyngor Sir Ddinbych i uchafu’r fantais economaidd bosib i’r ardal. 
.

Gwybodaeth a Phrofiad:

• Profiad blaenorol o gomisiynau celf gyhoeddus llwyddiannus o’r cysyniad i’r comisiynu a rheoli prosiect y dargludiad
• Hanes o ffynonellu a dargludo ariannu ar gyfer comisiynau celf gyhoeddus.
• Mae’n rhaid iddo ef/iddi hi ddangos tystiolaeth o sgiliau cyfathrebu amryddawn, rheolaeth gyffredinol dda a’r gallu i arwain a datblygu timau prosiect.
• Meddwl yn greadigol ac arloesol
• Yn ymatebol ac yn hyblyg i ofyniad a blaenoriaethau newidiol.
• Brwdfrydedd, ymrwymiad, hunan-symbyliad gydag ymdeimlad cryf o bwrpas
• Rhoddir statws cyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg felly bydd y gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda Grŵp Llywio H M Stanley i sicrhau adlewyrchu holl nodau ac amcanion y prosiect.

Telerau ac Amodau: 

Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd a benodir gytuno â a chwblhau cytundeb safonol y Cyngor i arwain a rheoli’r comisiwn.  Bydd hyn yn cwmpasu’r materion arferol mewn cytundebau felly yn cynnwys inter alia:


• taliadau cyfnodol
• indemniad proffesiynol
• yswiriant
• hawliau eiddo deallus
• perchnogaeth dogfennau gan y cleient
• ansawdd ac amserlen gwaith boddhaol
• cymeradwyaeth ymlaen llaw ar gyfer unrhyw newid is-gontractwr neu Reolwr Prosiect gan yr ymgynghorwr
• rhybudd terfyniad

Fe ddyrannwyd cyllideb o £5,000 i gynnwys yr holl dreuliau.  Caiff hwn ei dalu mewn cyfres o daliadau cyfnodol.

Meini Prawf Dethol

Fe ddyfarnir cytundeb ar sail:

a. methodoleg glir i ymgymryd â’r comisiwn yn cynnwys tasgau penodol a thasgau ac allbwn wedi eu nodi ynghyd â graddfa amser realistig
b. hanes a phrofiad yr Unigolyn neu’r Tîm Prosiect

Graddfeydd Amser:

I’w cytuno ar ddyfarniad y comisiwn.  Rhagwelir y bydd ymchwiliadau a chasgliadau cychwynnol yn cael eu hadrodd i’r grŵp yn ystod mis Hydref 2008.

Gofynion tendr:  Wrth ymateb i’r brîff hwn dylid cyflwyno’r wybodaeth ganlynol:
1. CV gyfoes gyda manylion pob profiad perthnasol o ran comisiynu celf gyhoeddus a sicrhau cymorth grant/nawdd.
2. Cynnig prosiect, dylai hwn gynnwys:
• Dadansoddiad o’r gyllideb – Amlinellwch nifer y dyddiau a dreulir yn ymgynghori, gofynion eraill – defnyddiau, teithio, gorbenion etc.
• Manylion ar y dull a ddefnyddir.
• Y canlyniadau a ragwelir ac sydd i’w cyflawni gyda graddfeydd amser realistig.

Gofynion tendr:  Wrth ymateb i’r brîff hwn dylid cyflwyno’r wybodaeth ganlynol i :
Joanna Douglass, Swyddog Adfywio Gwledig, Cyngor Sir Ddinbych, Trem Clwyd, Canol-y-Dre, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1QA

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0