Mae Cyngor Sir Ddinbych yn falch o gyhoeddi fod Amgueddfa’r Rhyl sydd o fewn Llyfrgell, Amgueddfa a Chanolfan Gelfyddydau'r Rhyl, wedi derbyn achrediad ‘Sicrwydd Ansawdd Atyniad Ymwelwyr’ (VAQAS Cymru) gan Groeso Cymru. Mae’r cadarnhad swyddogol hwn yn dangos fod yr atyniad yn cynnig gwasanaeth o ansawdd i ddarpar ymwelwyr gyda safonau uchel.
Mae ymweliad ag Amgueddfa’r Rhyl yn rhoi cyfle i chi ddarganfod blas ar fywyd ac amseroedd y dref. Gallwch ‘gerdded ar hyd y pier’ i weld blychau arddangos sy’n amlygu’r Rhyl yn ystod y rhyfel, y gyrchfan Edwardaidd, teganau a gemau, a deunydd o Faddondy Prestatyn. Gallwch wneud apwyntiad hyd yn oed i gyfarfod ag Archeolegydd Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru.
Mae Amgueddfa’r Rhyl ar hyn o bryd yn cynnal arddangosfa fechan ar y 1960au fel rhan o brosiect Llawenydd y Degawdau. Ydych chi’n cofio cariad Cindy? Pa fath o becynnu oedd yna i gynnyrch rhewedig y 1960au? Sut le oedd glan môr Y Rhyl yn y 1960au? Ynghyd â’r arddangosfa fe allwch ymuno â dau ddigwyddiad am ddim -
Gwener 15 Awst Creu eich cadw-mi-gei eich hun yn steil y 1960au
Llun 18 Awst Dyluniad Gwisgoedd y Chwedegau
Mae yna ddigwyddiadau eraill am ddim yn yr amgueddfa yn ystod y misoedd nesaf.
Sadwrn 4 Hydref Tynnu Llun Glan y Môr
Sadwrn 13 Rhagfyr Pelydrau’r Nadolig
Am wybodaeth bellach ffoniwch 01824 708281 neu e-bost susan.dalloe@denbighshire.gov.uk


Rhoi adborth ar y tudalen hon