Mae Sir Ddinbych yn annog modurwyr i ddefnyddio’r meysydd parcio sydd ar ôl ym Mhrestatyn yn dilyn cau dau faes parcio ar dir safle datblygu Tesco a Somerfield.
Cafwyd cwynion gan aelodau’r cyhoedd am geir yn parcio’n ddwbl yng nghanol y dref ers cau’r ddau faes parcio ac mae gwasanaethau parcio Sir Ddinbych am atgoffa modurwyr fod yna ddigon o feysydd parcio eraill i’w defnyddio wrth ymweld â Phrestatyn.
Y rhain yw:
Maes Parcio gwaelod y Stryd Fawr, Prestatyn, ger tafarn Offa - 88 bae, arhosiad hir.
Maes parcio canolog, ger swyddfeydd y Cyngor yn Nhŷ Nant - 123 bae, arhosiad hir.
Maes parcio Fern Avenue, top y Stryd fawr - 65 bae arhosiad hir.
Maes parcio Kings Avenue, canol y Stryd Fawr - 37 bae, arhosiad byr.
Dau faes parcio am ddim,
Gerddi’r Coroni, ger gorsaf y rheilffordd - 33 bae, am ddim.
Maes parcio Canolog Uwch - 81 bae, am ddim
Gellir cael trwyddedau arhosiad hir o swyddfeydd y cyngor am £65.00 y flwyddyn neu dâl is o £35.00 i rai sy’n 60 neu’n hŷn.

Rhoi adborth ar y tudalen hon