| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
08/05/2008 - Sir Ddinbych yn llongyfarch cwmni llwyddiannus.

Fe enwyd Lawson Construction sydd wedi ei leoli yn Henllan, yn enillydd yng nghategori Mentrau Bach, Canolig gan Ragoriaeth Adeiladu yng Nghymru mewn digwyddiad mawreddog yng Nghasnewydd yn ddiweddar.
Bydd y cwmni sy’n cael ei redeg gan Frank Lawson a’i wraig Angeline, yn awr yn mynd drwodd i’r Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu cenedlaethol sydd i’w cynnal yn Llundain ym mis Tachwedd.
Rhoddodd aelod arweiniol y Cabinet dros Adfywio, y Cynghorydd David Thomas, ganmoliaeth i’r cwmni am ei lwyddiant, gan ychwanegu: “Hoffwn longyfarch Lawson Construction am ennill yr acolâd pwysig yma ac yr ydym yn dymuno’r gorau iddyn nhw yn rownd nesa’r gystadleuaeth.”

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0