Mae gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych wedi trefnu C’mon Corwen, diwrnod o ddigwyddiadau a gweithgareddau i bawb ar ddydd Mercher, Awst 13.
Nid yn unig fe fydd yna daith dywys i ben Caer Drewyn (dan arweiniad Fiona Gale, Archeolegydd y Sir a Samantha Williams, Swyddog y Prosiect Bryngaerau) i ddarganfod rhai cyfrinachau am y fryngaer odidog yma o’r Oes Haearn, ond fe gaiff pobl gyfle i helpu bywyd gwyllt lleol hefyd!
Gallwch adeiladu eich blwch adar neu ystlumod eich hun ac i’r rhai sydd am osgoi gwres yr haf, beth am wisgo eich wellingtons a thorchi llewys i lanhau’r afon?!
Mae yna ddyfrgwn yma a gall y bobl leol wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd ar yr afon drwy glirio’r sbwriel a’r gweddillion ar hyd y glannau.
I ddiweddu’r diwrnod, y wobr am ymdrechion pawb fydd barbiciw ffantastig gan ddefnyddio’r bwyd lleol gorau o Ystâd y Rhug.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yno, ffoniwch Wasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych ar 01978 869618 neu Swyddfa Loggerheads 01352 810614 i fwcio lle.

Rhoi adborth ar y tudalen hon