| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
08/07/2008 - Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cael sêl bendith

’Doedd Patricia Sot, disgybl 15 oed yn Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun, erioed wedi clywed am Langollen na’r Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Frenhinol nes iddi gael ei lleoli yno ar brofiad gwaith fel gwirfoddolwr yn y Clwb Cystadleuwyr am wythnos y digwyddiad ym mis Gorffennaf.

Ond yn awr, mae hud yr Eisteddfod wedi ennill edmygwr arall mae Patricia’n disgrifio’r Eisteddfod a Llangollen yn ei geiriau ei hun fel ‘y lle perffaith i bawb’.

Mae’n esbonio fod y digwyddiad wedi rhagori ymhell ar ei disgwyliadau ac fel yr oedd wedi mwynhau dod i adnabod gwahanol bobl, eu miwsig, celfyddyd, diwylliant a chrefydd.

“Does ond yn rhaid i chi deimlo’r awyrgylch ac mae’r brwdfrydedd yn tyfu ynddoch chi,” meddai.

“Mae Llangollen yn dref fechan gyda phwrpas anferth.  Mae’r ŵyl yn helpu i’ch atgoffa nad yw’r byd wedi ei rannu gan hil.  Mae celfyddyd a miwsig yn dod a phobl ynghyd ac mae’r Eisteddfod yn gwneud i hyn ddigwydd.”

Mewn llythyr teimladwy at staff yr Eisteddfod yn diolch iddynt am ei hamser yno, mynegodd Patricia ei gwerthfawrogiad o’r cyfle i gyfarfod â phobl o dros y byd.

“Mae’n rhaid i mi gyfaddef fod wythnos yr Eisteddfod wedi bod yn amser pwysig yn fy mywyd.

“Cyn fy mhrofiad gwaith, roeddwn wedi ystyried mynd yn ôl i Wlad Pwyl gan fy mod yn teimlo fel dieithryn o blaned arall yma yng Nghymru - ond rwyf wedi newid fy meddwl ers yr Eisteddfod.”

’Does dim rhaid dweud fod Patricia’n gobeithio gallu gwirfoddoli yn yr Eisteddfod eto'r flwyddyn nesaf a bydd croeso mawr iddi.

Rhoddwyd y cyfle yma i Patricia diolch i staff a gwirfoddolwyr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a bydd ei stori’n ymddangos yn newyddlen nesaf  ‘Music & Staging’ 'MiScellany'

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0