| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
08/07/2008 - Amser i Gyfarfod y Superlambanana Uchaf

Tŵr Jiwbilî ar gopa Moel Famau yw’r lle i fod ar Awst 16 gyda chyfle i gyfarfod â’r Superlambanana uchaf o’r cwbl.
Mae’r Daith Fawr yn ddigwyddiad a drefnir gan Gyngor Sir Ddinbych a Chyngor Sir Fflint, i ddathlu’r cysylltiadau rhwng Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Glannau Merswy, wrth i Lerpwl ddathlu ei statws fel Prifddinas Diwylliant Ewrop.
Dros yr haf, gosodwyd trywydd o 120 Superlambanana o gwmpas Lerpwl ond fe lwyddodd tri ohonyn nhw i ‘ddianc’ gydag un ohonyn nhw’n gwneud ei ffordd i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a Pharc Gwepra lle, drwy gyfres o weithdai, fe helpodd plant ac oedolion i addurno’r Superlambanana gyda Moel Famau dan sylw.
Yn awr fe wahoddir pawb i ymuno â’r Superlambanana sydd newydd gael ei wisgo pan fydd yn cael ei droi allan i ‘bori’ ar ben Moel Famau ar gyfer y Daith Fawr, diwrnod o hwyl i’r teulu gyda pherfformiadau o fiwsig a barddoniaeth.
Bydd y Tŵr Jiwbilî’n cael ei addurno hefyd gyda baneri a fflagiau, wedi eu gwneud yn arbennig gan blant a oedd yn y gweithdai mewn  ysgolion a llyfrgelloedd drwy’r siroedd.
Meddai Aelod Arweiniol Cabinet Cyngor Sir Ddinbych dros Dwristiaeth, y Cynghorydd David Thomas: “Bydd y digwyddiad hwn yn ddiwrnod o ddathlu ein cysylltiadau â Lerpwl Prifddinas Diwylliant Ewrop, cyfle i gyfarfod ein Superlambanana ni ein hunain yn ogystal â mwynhau’r golygfeydd hyfryd ar draws Dyffryn Clwyd ac AHNE Bryniau Clwyd."
Meddai Cadeirydd Cyngor Sir Fflint, y Cynghorydd Quentin Dodd: “Bydd hwn yn ddiwrnod o hwyl i’r teulu cyfan, gyda’r cyfle i brofi harddwch Moel Famau a hefyd gweld gwaith plant ysgol Sir Fflint a Sir Ddinbych a oedd wedi cael amser mor bleserus yn addurno’r Superlambanana.”
Dewch â phicnic efo chi i gymryd rhan mewn diwrnod o hwyl ac adloniant i’r teulu.
Bydd y 500 o ymwelwyr cyntaf i gyrraedd y copa’n derbyn banana trwy garedigrwydd y Co-op. Mae Parcio a Theithio ar gael o Neuadd y Sir, yr Wyddgrug a bydd yn rhedeg ar gyfnodau rheolaidd o 9.30am ac yn dychwelyd drwy gydol y prynhawn.  Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn defnyddio’r bws Parcio a Theithio fwcio ymlaen llaw (gair i gall) drwy ffonio 01352 810614

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0