Bydd y Daith Fawr yn digwydd Y SADWRN HWN, Awst 16 2008 wrth i gannoedd o bobl ymlwybro i gopi Moel Famau, i ddathlu’r dirwedd a’r cysylltiadau diwylliannol rhwng gogledd ddwyrain Cymru a Lerpwl.
Mae gan Fryniau Clwyd gysylltiad cryf â Lerpwl, fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ar stepen drws y ddinas, sy’n cynnig dihangfa rhag pwysau bywyd modern.
Ar Orffennaf 8 1926, fe gychwynnodd cwmni bws Crosville wasanaeth o Lerpwl i Loggerheads, drwy Runcorn, Caer a’r Wyddgrug. Defnyddiodd miloedd o ymwelwyr dydd y gwasanaeth, gan greu cysylltiad sy’n dal yn bod heddiw. Yn ystod y rhyfel roedd yr ardal yn gartref i lawer o faciwîs. Yn ddiweddarach, mae llawer o drigolion Lerpwl wedi treulio peth amser yng Nghanolfan Addysg Cyngor Sir Lerpwl yng Ngholomendy yn Loggerheads ac fe fyddant wedi cerdded at Dŵr Jiwbilî ar gopa Moel Famau fel rhan o’u harhosiad.
Bydd y daith y Sadwrn hwn yn helpu i ddathlu’r cysylltiad hwn. Bydd superlambanana, wedi ei addurno gan blant lleol, yn cael ei leoli dros dro ar ben Moel Famau i gysylltu â Lerpwl 08. Dyma’r superlambanana sydd yn y lleoliad uchaf ar y llwybr ac sydd i’w weld ar hyn o bryd yn Lerpwl (www.gosuperlambananas.co.uk ) Fe drefnir adloniant hefyd i bobl ei fwynhau yn ystod y daith ac ar y copa, yr uchafbwynt fydd y Batala Brazilian Drummers o Lerpwl sydd wedi perfformio gyda’r Sugababes ac yng Ngharnifal Notting Hill.
Fe gynghorir bwcio ar 01352 810614. Trefnwyd gwasanaeth bws parcio a theithio o’r Swyddfeydd Dinesig (Neuadd y Sir) yn yr Wyddgrug a fydd wedi ei arwyddo’n glir ar ddydd Sadwrn. Y bws parcio a theithio gyntaf i adael am 9.30 fydd Bws Crosville tras i ail-greu’r dyddiau a fu. Niferoedd cyfyngedig felly bwciwch yn awr. Wedi hynny bydd bysiau’n rhedeg drwy gydol y bore.
Pan osodwyd y garreg sylfaen ar gyfer y Tŵr Jiwbilî daeth 3,000 o bobl i ddathlu’r digwyddiad. Meddai’r Trefnwyr “Rydym yn gobeithio y gallwn fynd beth o’r ffordd i ail-greu’r ysbryd a oedd ar gopa Moel Famau yn 1810 yn 2008”


Rhoi adborth ar y tudalen hon