Dyma’r wythnos ymwybyddiaeth defnyddwyr gyntaf i’w chynnal yng Nghymru a bydd Penaethiaid Safonau Masnach Cymru, mewn partneriaeth â Chyswllt Defnyddwyr Cymru a ‘Chroeso Cymru’ (Bwrdd Twristiaeth Cymru yn flaenorol) Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnal wythnos thema o Awst 18. Y thema a ddewiswyd yw ‘Gwyliau’.
Bydd yn rhoi cyfle i bobl ddarganfod mwy am fentrau fel cynllun graddio cytûn newydd Croeso Cymru, yn ogystal â chyngor a gwybodaeth gyffredinol ar ddewis eich gwyliau, eich hawliau fel defnyddiwr, y diogelwch sydd gennych wrth brynu gwyliau pecyn un ai yn y wlad yma neu dramor a sut i gwyno os bydd angen.
Gobeithir hefyd y bydd y digwyddiad sy’n parhau am wythnos yn amlygu a gwella ymwybyddiaeth o faterion busnes fel yr angen i ddelio â chwynion yn rhesymol ac effeithlonrwydd cost o wneud hynny

Rhoi adborth ar y tudalen hon