| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
08/11/2008 - Sir Ddinbych yn annog ysgolion uwchradd i ymuno yn y ddadl

 Mae cofrestru wedi cychwyn ar gyfer Pencampwriaethau Dadlau Ysgolion Cymru 2008 ac mae Sir Ddinbych yn annog myfyrwyr i gymryd rhan.

Mae’r pencampwriaethau, sy’n cael eu cynnal gan CEWC-Cymru (Council for Education in World Citizenship) yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddadlau materion cenedlaethol a byd-eang pwysig mewn lleoliad cystadleuol.

Mae croeso i ysgolion uwchradd a cholegau addysg bellach gymryd rhan ac er mwyn ychydig o ymarfer ychwanegol, fe drefnwyd dau Ddiwrnod Hyfforddi Dadlau yng Nghaerdydd ar Fedri 22 a’r ail yn Neuadd y Dref, Rhuthun ar Fedi 26.  Hefyd gall CEWC-Cymru gynnal gweithdai rhyngweithiol mewn ysgolion ar gais.

Mae’r gystadleuaeth, a sefydlwyd yn 1990, yn mynd drwy wyth rownd ranbarthol ym mis Hydref gyda’r rownd derfynol ym mis Tachwedd.

Hefyd fe allai’r enillwyr fod yn cael mynd am drip i Athen i gynrychioli eu gwlad a chymryd rhan ym mhencampwriaethau Dadlau Ysgolion y Byd ym mis Chwefror.

Ewch i www.cewc-cymru.org.uk/debating am fanylion llawn.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0