Bydd grŵp bechgyn newydd Avenue yn ymddangos fel gwestai yn Hwyl yn yr Haul yn Arena’r Rhyl 2008.
Bydd y band pop yn agor y sioe ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc ac yn perfformio eu sengl gyntaf ‘Last Goodbye’. Eisoes fe gymharir y band â Take That, Boyzone a Westlife.
Bydd y digwyddiad hwn sydd am ddim ac a drefnir gan Gyngor Sir Ddinbych gyda chefnogaeth Cyngor Tref Y Rhyl a Coast 96.3 FM, yn digwydd yn Arena’r Rhyl dydd Sul Awst 24 a Dydd Llun 24, Gŵyl y Banc ar gyfer Hwyl yn yr Haul 2008, (canol dydd - 5 pm).
Mae’r perfformwyr yn cynnwys sêr o’ch hoff operâu sebon, ynghyd â sêr pop a bandiau sydd ar frig y siartiau:
Pete Price (cyflwynydd radio City Talk)
Same Difference - yn rownd derfynol X factor
Katherine Kelly - Becky Grainger seren 'Coronation Street'
Tom Lister - Carl King ( Emmerdale)
Natasha Hamilton (Atomic Kitten gynt)
Hoop la la (Britain's Got Talent)
Rusholme Ruffians (yn cyflwyno Ben Hardman & Ben Thompson - mae Ben Thompson yn chwarae Ryan Connor yn 'Corrie')
Sabrina (cyn aelod o fand genod Mis-teeq)
The Latch (band yn cyflwyno cyn seren Steps, Lee Latchford Evans )
James Stone (canwr lleol a seren Britain's Got Talent)
Shaky Shaun (o X Factor)
Wig Wam Glam (band teyrnged y 70au)
Laura Critchley (cantores sydd ar daith ar hyn o bryd gyda Boyzone)
Billiam (Llwyddiant Siart Top 30’r DU)
Mae actau cefnogi a sêr y dyfodol yn cynnwys:
Kissing Freddie (band genod newydd)
Stonefoxx (band genod)
Lauren Rose (cantores)
Michael Hinch (seren bop addawol)
Vogue (band genod)
Scott 'G' (canwr ifanc)
Cinderella Theory (grŵp genod yn cyflwyno artist lleol Corrine Parry)
Fallen Angels (Deuawd Genod Poeth)
Yn ogystal â’r arlwy enfawr o artistiaid, mae’r digwyddiad yn cynnwys adloniant i blant, paentio wynebau, sgiliau syrcas a ffair deithiol.
Ynghyd â digwyddiad Hwyl yn yr Haul bydd RNLI Y Rhyl yn cynnal eu Diwrnod Agored blynyddol ar ddydd Sul Awst 24 a bydd cyffro’r diwrnod yn cynnwys dychweliad Tîm Arddangos Parasiwt y Red Devils, Arddangosiad Awyrennau Spitfire yr Ail Ryfel Byd, Awyrennau Model a Hofrennydd Heddlu Gogledd Cymru.
Dewch draw i ymuno yn yr hwyl!!!!
Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r Uned Ddigwyddiadau ( 01824 712704)


Rhoi adborth ar y tudalen hon