Mae arweinlyfr newydd sbon sy’n hyrwyddo Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd newydd gael ei gyhoeddi.
Mae ‘Darganfod Bryniau Clwyd' yn gyhoeddiad dwyieithog a gynhyrchwyd gan staff Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd, mewn partneriaeth â Chynghorau Sir Ddinbych a Sir Fflint, Cadwyn Clwyd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru.
Fe’i dosberthir i ganolfannau ymwelwyr ac allfeydd eraill yn Sir Ddinbych a Sir Fflint, yn cynnwys sefydliadau gwely a brecwast a gwestai.
Mae yna lu o erthyglau yng nghyhoeddiad 2008, yn cynnwys erthygl ar ddiogelu llygoden y dŵr, archeoleg, hanes, Gŵyl Fwyd yr Wyddgrug, rysáit myffin lus, erthygl ar Gaffi Florence ym Mharc Gwledig Loggerheads, cerdd am ehediad bwncath, llyfrynnau’n hyrwyddo Bryniau Clwyd ac erthygl ar gyfres o ffilmiau archif a gymerwyd yn ardaloedd Llanarmon a Llanferres yn ystod y 1940au a’r 50au.
Meddai Howard Sutcliffe o AHNE Bryniau Clwyd: "Mae’r llyfryn hwn yn rhoi gwir flas bywyd ym Mryniau Clwyd i ymwelwyr a phobl leol. O fryngaerau hanesyddol i ymdrechion cadwraethol, o rysetiau gan ddefnyddio ffrwythau lleol i wyliau bwyd amheuthun, mae yna rywbeth i bawn yn yr AHNE.
“Gobeithiwn y bydd y bobl sy’n cymryd copi’n profi cyfoeth y gweithgareddau sydd ar gael yn yr ardal ac yn gwerthfawrogi’r golygfeydd mwyaf bendigedig sydd i’w cael yn unman yn y DU.”
Gellir cael gwybodaeth bellach ar Fryniau Clwyd ar: www.clwydianrangeaonb.org.uk


Rhoi adborth ar y tudalen hon