| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
08/12/2008 - Llwyddiant ariannu grant i brynwyr newydd

Gall prynwyr newydd mewn rhannau o Sir Ddinbych wneud cais am ran o ariannu gwerth £75,000 wedi i Sir Ddinbych wneud cais llwyddiannus am grant Llywodraeth Cynulliad Cymru i wneud cartrefi’n fwy ynni-effeithlon.

Bydd y cynllun hwn yn galluogi Sir Ddinbych i ddarparu cymorth ariannol i brynwyr newydd sy’n prynu anheddau sy’n bod yn barod o fewn ardaloedd adnewyddu  West Parade (Y Rhyl), De Orllewin/Dwyrain Y Rhyl a Chanol Dinbych ar gyfer costau cyfalaf mesurau gwella effeithlonrwydd ynni neu gyda gosod mesurau ynni adnewyddadwy.

Fe fydd angen i’r ymgeiswyr fod wedi cwblhau prynu eu heiddo ar ôl Mehefin 27 2007 ac mae’n rhaid iddynt fyw yn yr annedd fel eu hunig neu eu prif gartref.  Gall yr ymgeiswyr wneud cais am hyd at £5,000 o’r ariannu.

Meddai’r Cynghorydd David Thomas, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Adfywio: "Rydym yn hynod falch o fod wedi llwyddo yn ein bid am ariannu Llywodraeth Cynulliad Cymru fel y gall prynwyr newydd elwa o fesurau gwella effeithlonrwydd ynni yn eu cartrefi.  

“Gall prynu eiddo am y tro cyntaf fod yn frawychus ac yn gostus a bydd yr ariannu hwn yn ddefnyddiol iawn ar gyfer prynwyr newydd sy’n gobeithio gwella effeithlonrwydd eu cartrefi."

Am wybodaeth bellach cysylltwch ag Amy Bennett yn Uned Tai ac Adnewyddu Ardal Sir Ddinbych ar 01824 706360.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0