Gwahoddir merched busnes yn Sir Ddinbych i rannu eu profiadau ym myd busnes mewn digwyddiad rhwydweithio o gwmpas thema fformat y panel 'Whose Line Is It Anyway'.
Mae’r digwyddiad ‘Network She’ yn gyfle ardderchog i glywed gan ddwy o ferched busnes llwyddiannus lleol a rhwydweithio gydag ystod eang o gysylltiadau hen a newydd.
Trefnir y digwyddiad gan Network She, mewn partneriaeth ag Uned Adfywio Ardal a Buddsoddi Cyngor Sir Ddinbych ac fe’i cynhelir yng Nghastell Rhuthun ar ddydd Iau, Medi 18 am 6.30pm. Mae’r digwyddiad am ddim.
Bydd y noson yn dechrau gyda derbyniad ac yna gyflwyniad. Yna bydd cynrychiolwyr yn cael cyfle i siarad gydag eraill a gweld arddangosfeydd gan aelodau presennol Network She. Mae croeso i ddynion ddod i’r digwyddiad hefyd.
Network She yw’r unig fenter o’i fath sydd wedi ei dargedu’n benodol at ferched sy’n golygu busnes.
Mae cofrestru ar gyfer y digwyddiad yn hanfodol. I gofrestru cysylltwch â Vona Law yn Uned Adfywio Ardal a Buddsoddiad Sir Ddinbych ar 01824 708047 neu e-bost: vona.law@denbighshire.gov.uk
Am wybodaeth bellach am Network She, ewch i www.networkshe.co.uk neu cysylltwch â Ruth Williams ar 0845 0095661.

Rhoi adborth ar y tudalen hon