Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn arddangos danteithion diwylliannol y sir mewn digwyddiad mawreddog yn y calendr amaethyddol yr wythnos nesaf.
Thema pabell y Cyngor yn Sioe Dinbych a Fflint, a gynhelir yn Y Green, Dinbych ar ddydd Iau, Awst 21 fydd Sir Diwylliant ac mae’n ffurfio rhan o raglen o weithgareddau ledled y sir i hyrwyddo diwylliant amrywiol Sir Ddinbych.
Fe anogir y rhai sy’n dod i’r sioe i ymweld â’r babell i gael gwybodaeth am gyfoeth y llwybrau troed yn y sir, atyniadau ar gyfer ymwelwyr a phreswylwyr a llu o weithgareddau diwylliannol i ddifyrru pobl drwy’r flwyddyn.
Gall ymwelwyr ddysgu am brosiect Grug a Bryngaerau sydd wedi ei sefydlu i ddiogelu a gwella rhostir grugog a bryngaerau Bryniau Clwyd a Mynydd Llantysilio.
Bydd telynor yn perfformio’n gyfnodol yn y babell yn ystod y dydd a gall pobl ifanc fynychu gweithdai adrodd stori arbennig gyda’r storïwr Catherine Arran.
Hefyd bydd y Cyngor yn manteisio ar y cyfle i ofyn barn pobl ar y blaenoriaethau a nodwyd, sef: Moderneiddio Addysg, ymateb i newid demograffig, adfywio a ffyrdd ac amddiffynfeydd rhag llifogydd.
Bydd pabell y Cyngor wedi ei lleoli yn Rhes J, gyferbyn â phafiliwn yr Aelodau a’r prif gylch.
Am wybodaeth bellach am y sioe, ffoniwch 01352 712131 neu ewch i: www.denbighandflintshow.com

Rhoi adborth ar y tudalen hon