Fe amlygwyd ailddatblygiad Canolfan Grefft Rhuthun mewn papur newydd cenedlaethol fel canolfan rhagoriaeth mewn celfyddyd gymhwysol gyfoes.
Mae erthygl a gyhoeddwyd yn y Sunday Telegraph yn disgrifio’r datblygiad gan benseiri Segison Bates fel "strikingly modern reworking of the site that lifts up its eyes to the hills and makes a bold connection with the surrounding country. Its zinc -covered roof replicates in sweeping zigzags to the outline of the hills, at the same time nodding towards the region's past: in the 18th century the Vale of Clwyd was home to the world's largest zinc mines.”
Caiff Cyfarwyddwr y Ganolfan Grefft, Philip Hughes glod hefyd yn yr erthygl gan y seramegydd Walter Keeler fel "a very active person who has taken a provincial little gallery and turned it into something of international significance." Aiff Keeler ymlaen i ddisgrifio Canolfan Grefft Rhuthun fel "the most professional organisation I've worked with".
Mae yna dair oriel yn y ganolfan newydd, chwech o stiwdios artistiaid, galeri adwerthu, gweithdai addysg a phreswyl, gwybodaeth twristiaid a chaffi gyda theras cwrt ac mae’n awr ar agor i’r cyhoedd.
Meddai’r Cynghorydd David Thomas, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Adfywio, gyda chyfrifoldeb dros ddiwylliant: "Mae ailddatblygiad y Ganolfan Grefft wedi bod yn brosiect sylweddol sydd wedi cymryd sawl blwyddyn i’r gynllunio ac mae’r canlyniad yn adeilad ardderchog sy’n adlewyrchu natur gyfoes y datblygiad ac yn cyd-fynd â’i amgylchedd yr un pryd.
"Mae pawb sy’n ymweld â’r cyfleusterau’n cael eu synnu gan y datblygiad a chyda’r rhaglen gyffrous o arddangosfeydd sydd yno. Mae’n lle sy’n ysbrydoli a gobeithiwn y bydd preswylwyr, ymwelwyr a phobl sy’n ymddiddori mewn celfyddyd gyfoes yn profi’r hyn sydd ar gael."
Cafodd Canolfan Grefft Rhuthun Grant Loteri Cyfalaf o £3.15 miliwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru, un o’r grantiau mwyaf o’i fath yng Ngogledd Cymru. Yr arianwyr eraill yw: Llywodraeth Cynulliad Cymru (Adran Economi a Chludiant), Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Tref Rhuthun a Chadwyn Clwyd.


Rhoi adborth ar y tudalen hon