| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
08/13/2008 - Noson fythgofiadwy gyda doniau gorau Cymru….

Pedwar o artistiaid blaenllaw yn cyflwyno rhaglen gerddorol syfrdanol o hoff arias operatig a chaneuon o’r sioeau. Mae Gwledd o Gân ar ddydd Gwener, Awst 22 am 7.30pm
Mae’r sioe yn cynnwys artistiaid o gyfres BBC Master-class Dennis O’Neill yn ogystal â pherfformwyr rheolaidd o Opera Cenedlaethol Cymru, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol a Cherddorfa Siambr Genedlaethol Cymru.
Mae’r sioe yma na ddylid ei methu yn gyfuniad o hoff arias, deuawdau, triawdau a phedwarawdau ynghyd â chaneuon gan Rogers & Hammerstein, Flanders & Swan, Ivor Novello, a Gershwin.
Mae pob un o’r artistiaid wedi ymddangos yn y rhan fwyaf o’r prif leoliadau yn cynnwys yr Albert Hall, Festival Hall, Queen Elizabeth Hall-Llundain, Neuadd Dewi Sant Caerdydd a’r Birmingham Symphony Hall.
Mae’r sioe wedi teithio’n helaeth yn Lloegr, yr Alban a Chymru gyda llwyddiant mawr.
Meddai llefarydd ar ran y pafiliwn: ‘’Nid yw’r artistiaid hyn wedi ymweld â Llangollen o’r blaen ond maent yn dod gyda chanmoliaeth uchel ac felly rydym yn edrych ymlaen at roi croeso cynnes iawn iddyn nhw.”
Gwledd o Gân ~ Gwener Awst 22 ~ 7.30pm                        £13.50 / Plant £5
Am ragor o wybodaeth neu i archebu tocynnau, cysylltwch â’r Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol ar 01978 860111.

Mae yna far yn y lleoliad, digon o le parcio a’r gwasanaeth cyfeillgar yr ydych yn ei ddisgwyl! Gobeithio y gallwch ymuno â ni!

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0