Fe enillodd Plas Newydd, a oedd unwaith yn gartref i Ferched Llangollen, b brif wobr yng nghystadleuaeth genedlaethol Cymru yn ei Blodau, gan ennill y wobr gyntaf yng nghategori adeiladau a gerddi cyhoeddus.
Mae’r tŷ a’r gerddi’n awr yn eiddo i, ac yn cael eu rheoli gan, Gyngor Sir Ddinbych ac mae’r gerddi wedi cael eu hadfer yn llwyr gyda helpu grant ariannu cyfatebol o £900,000 gan gronfa Treftadaeth y Loteri.
Caiff y gerddi hyfryd eu cynnal gan y garddwyr Gary Lovelock ac Ian Dunderdale, ac maent yn cynnwys parterre a thocwaith, prysglwyni Georgaidd, glyn coediog a nant gyda waliau cerrig sychion.
Rhoddodd yr aelod arweiniol dros dwristiaeth a diwylliant, y Cynghorydd David Thomas ganmoliaeth i’r tîm garddio am eu llwyddiant.
“Mae hwn wedi bod yn ymdrech tîm ffantastig gan bawb sydd wedi bod ynghlwm â Phlas Newydd ac rwy’n hynod falch o weld bod eu gwaith caled wedi talu ei ffordd gyda gwobr gyntaf yng nghystadleuaeth fawreddog Cymru yn ei Blodau.”
Mae seremoni wobrwyo Cymru yn ei Blodau i’w chynnal yn Venue Cymru, Llandudno dydd Gwener, Medi 19.
Mae Gerddi Plas Newydd ar agor yn ddyddiol 8am - 6pm gyda mynediad am ddim
Y tŷ ar agor Ebrill - Hydref, 10 am - 5pm yn ddyddiol
Ystafelloedd te 10am - 5pm yn ddyddiol
Ymholiadau cyffredinol 01978 861314
Bwcio ar gyfer Grwpiau - 01824 708223

Rhoi adborth ar y tudalen hon