| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
08/13/2008 - Noson i mewn i ymgolli ym myd angerddol y Fflamenco

Mae gweithdy arbennig yn barod i roi cyfle prin i ymwelwyr â Phafiliwn Rhyngwladol Brenhinol Llangollen, i brofi dawn rymus a lliwgar - Y Fflamenco.

Bydd  y gweithdy, sy’n rhedeg o 6pm tan 7pm ar ddydd Sadwrn, Medi 13, yn costio £6 a bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael y cyfle i ddysgu’r ddawns gyffrous, emosiynol a gweledol syfrdanol yma sy’n hanu o ranbarth de orllewin Sbaen.

Yn dilyn y gweithdy, fe gwblheir y noson gyda pherfformiad gan y ddau ddawnsiwr llwyddiannus, Jaleo Flamenco eu hunain, sy’n dychwelyd i Langollen gyda  mewnolwg grymus newydd i’w byd fflamenco coegwych a hudolus o ddawnsio, canu a gitâr.

Mae’r sioe’n addo cymysgedd nerthol a throedwaith ffrwydrol, canu hudolus, chwarae gitâr meistraidd a chlapio dwylo ergydiol ac mae wedi derbyn adolygiadau canmoliaethus iawn gan feirniaid.

Mae Jaleo Flamenco’n costio £13.50 i oedolion, £5 i blant ac mae’n dechrau am 8pm.

Mae llefydd yn y gweithdai’n gyfyngedig felly bwciwch yn gynnar drwy ffonio’r Pafiliwn ar 01978 860111.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0