Mae graddfeydd llwyddiant Lefel A yn wyth o ysgolion uwchradd Sir Ddinbych yn 2008 yn 96.9% (Graddau A-E), i fyny 0.7% ar ffigurau 2007.
Cyfartaledd ffigwr Cymreig graddau A-E yw 97.6% a chyfartaledd y DU yw 97.2%.
Cyfran y graddau A a gyflawnwyd gan ddisgyblion Sir Ddinbych yw 20.2%, i fyny 0.8% ar 2007 o’i gymharu â’r ffigwr Cymreig o 24.1%.
Cyfran myfyrwyr Sir Ddinbych sy’n cyflawni graddau A-C yw 71.6%, i fyny 1.1% ar ffigurau'r llynedd.
Canlyniadau ysgolion y sir yw:
Graddau A-E Graddau A
2008 96.9% 20.2%
2007 96.2% 19.4%
2006 96.7% 23.04%
2005 96% 19.9%
Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol y Cabinet dros Ddysgu Gydol Oes: "Hoffwn longyfarch yr holl fyfyrwyr sydd wedi cyflawni’r graddau yr oedd arnynt eu hangen ar gyfer eu haddysg bellach, ac rwy’n dymuno pob llwyddiant iddynt yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
"Rwy’n falch o weld ein bod wedi cynnal ein safonau Lefel A gyda chynnydd bychan yn y canrannau o’u cymharu â’r llynedd. Hoffwn ddiolch hefyd i athrawon y sir am eu hymdrechion i gynnal y safonau hyn ac am yr holl gefnogaeth y maent wedi ei roi i’r myfyriwyd yn ystod eu hastudiaethau.”


Rhoi adborth ar y tudalen hon