| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
08/14/2008 - Llwyddiant y tim cyfreithiol

Mae tîm cyfreithiol y Cyngor Sir yn dathlu wedi iddynt ddal eu gafael yn llwyddiannus ar achrediad diwydiant.

Excel yw’r marc ansawdd a ddatblygwyd gan Gymdeithas  Cyfreithwyr Lloegr a Chymru am ymarferiadau ac adrannau cyfreithiol sydd wedi eu hasesu’n annibynnol i fod wedi cyflawni Safonau Dulliau Rheoli.

Fe nododd yr Asesydd 11 o feysydd o ymarfer da, yn cynnwys:
•Strategaeth reoli risg fanwl ac effeithiol
•Llawlyfr cyfredol ar weithdrefnau swyddfa
•System adolygu ffeiliau yn gweithio’n effeithiol
•Safon reoli ffeiliau dda, yn cynnwys cofnodi ac ategu dyddiadau a busnes allweddol a ffeiliau taclus gyda chrynodeb cynnydd treigl.

Meddai’r Cynghorydd Rhiannon Hughes, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Bersonél a Rheolaeth Busnes: "Rwy’n hynod o falch o longyfarch ein tîm cyfreithiol am eu llwyddiant yn adnewyddu’r achrediad diwydiant pwysig yma.  

“Mae’n dystiolaeth o waith caled yr holl staff yn yr adran gyfreithiol sy’n gweithio’n ddiflino i gynnal safonau uchel y gwaith ac mae’n gredyd iddyn nhw fod yr asesydd wedi nodi llawer o enghreifftiau o ymarfer da.”

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0