| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
08/14/2008 - Gweithdai cymunedol ym Mhafiliwn Rhyngwladol Brenhinol Llangollen


Efallai fod mis Medi’n adeg i fod yn mynd yn ôl i’r ysgol ond mae yna arlwy ardderchog o weithdai a dosbarthiadau yn y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol sy’n sicr o gael marciau uchel gan y myfyrwyr.


Yn dechrau ar Fedi 8 mae yna gwrs 12 wythnos o Ddosbarthiadau Dawnsio Salsa i oedolion.  Caiff y dosbarthiadau eu rhedeg gan North East Wales Dance Ltd.  Mae’r cwrs i Ddechreuwyr 7pm-7.45pm yn cael ei ddilyn gan y cwrs canolraddol/uwch 7.50pm-8.35pm


Am ragor o wybodaeth ewch i www.newdance.org.uk, ffôn 01978 869456 neu e-bost:  info@newdance.org.uk. Mae’r cwrs yn costio £45 (yn daladwy ar gychwyn y tymor)


Ar ddydd Mawrth, Medi 9 mae yna Theatr Ieuenctid o 3.30 - 4.30pm ac mae’n cwmpasu addasu ar y pryd, senarios a pherfformiadau i fyfyrwyr 11 oed a hŷn.


Hyd y cwrs yw 10 wythnos ac mae’n costio £4 y sesiwn sy’n daladwy ar y diwrnod.  Cynnig Arbennig!  Y 10 wythnos i gyd am ddim ond £30 yn daladwy ymlaen llaw.


Mae Theatr yr Ifanc yn dechrau ar ddydd Iau Medi 11 o 3.30 - 4.30pm ac mae’n cynnwys gemau theatr, adeiladu hyder a sgiliau cyfathrebu i ieuenctid 8 - 11 oed.  Mae’r cwrs yn rhedeg am 8 wythnos ac yn costio £4 y sesiwn yn daladwy ar bob diwrnod.  Cynnig Arbennig!  Yr 8 wythnos i gyd am ddim ond £24 yn daladwy ymlaen llaw.


Mae sesiynau Darllenwyr Dramâu’r Pafiliwn yn dechrau dydd Gwener, Medi 26 am 12.00 canol dydd ac fe’u cynhelir yn fisol.  Caiff Thesbiad cadair freichiau gyfle i ddarllen dramâu cyfoes a chlasurol mewn cwmni llawen ac mae croeso i aelodau newydd bob amser. £4 y sesiwn

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0