Merched Mileinig
Yn dwyn ynghyd awduron clasurol megis Agatha Christie, Dorothy L. Sayers a Margery Allingham ynghyd ag awduron cyfoes fel Patricia Cornwell, Minnette Walters a Val McDermid, mae'r casgliad hwn yn dathlu'r gorau mewn storïau ditectif gan ferched o flynyddoedd cynnar y ganrif ddiwethaf hyd at heddiw.
Er bod llawer wedi newid ers dyddiau Hercule Poirot a'r Arglwydd Peter Wimsey, nid yw gallu merched i ddal dychymyg y darllenydd wedi palu dim (ac mae efallai'n cynrychioli un o'r mathau o ffuglen lle mae merched yn cael eu darllen gan ddynion gymaint â chan ferched). Dyma'ch cyfle chi i brofi hynny!


Rhoi adborth ar y tudalen hon