08/15/2008 - Myfyrwyr Lefel A yn cyrraedd y marc
Mae canlyniadau Lefel A yn Sir Ddinbych wedi gwella ar raddfa gyflymach na’r cyfartaledd Cymreig, mae dadansoddiad o’r canlyniadau wedi datgelu.
Roedd cyfran y graddau A a gyflawnwyd gan ddisgyblion Sir Ddinbych yn 20.2%, cynnydd o 0.8% ar ffigurau 2007. Nid oedd yna unrhyw gynnydd yn y cyfartaledd Cymreig dros yr un cyfnod.
Fe aeth y raddfa basio (gradd A-E) yn Sir Ddinbych hefyd i fyny’n gyflymach na’r cyfartaledd Cymreig. Yn Sir Ddinbych roedd y raddfa basio’n 96.9% (graddau A-E) i fyny 0.7% ar ffigurau 2007. Roedd y cynnydd yn y raddfa basio yng Nghymru yn 2008 o’i gymharu â 2007 yn 0.5%
Roedd y raddfa basio gradd A-C yn Sir Ddinbych yn 2008 yn 71.6%, i fyny 1.1% ar y flwyddyn flaenorol. Ar hyn o bryd, nid oes yna ffigurau cymharol i Gymru gan Gydbwyllgor Addysg Cymru.
Meddai Arweinydd Sir Ddinbych, y Cynghorydd Hugh Evans, sydd hefyd yn Aelod Arweiniol y Cabinet dros Ddysgu Gydol Oes: “Mae dadansoddiad pellach o’r canlyniadau a dderbyniwyd dydd Iau wedi dangos fod y gwelliant yng nghanlyniadau Sir Ddinbych yn uwch, o’u cymharu â chynnydd ar gyfartaledd ar draws Cymru. Mae hwn yn gam yn y cyfeiriad iawn.
“Tra ein bod yn hynod falch fod y canlyniadau wedi gwella, rydym hefyd yn cydnabod fod yna fwy o waith i’w wneud i wella’r canlyniadau hyn ymhellach, ac mae’r Cyngor yn parhau i roi moderneiddio a gwella addysg yng nghalon ei waith.
“Mae ymroddiad ysgolion, staff a chynghorwyr yn amlwg a gobeithiwn fod y gwelliant yn y canlyniadau eleni’n gadarnhad pellach o gynnydd gwella safonau yn ein hysgolion a dargludiad ein gweledigaeth o ddarparu gwasanaeth addysg o’r radd flaenaf yn Sir Ddinbych.”

Rhoi adborth ar y tudalen hon