Mae’r arweinlyfrau ar gyfer Dyddiau Agored Treftadaeth Dyffryn Clwyd yn awr yn barod.
Gallwch alw i archebu eich copi am ddim a gweld yr hyn sydd gan Ruthun a Dinbych i’w gynnig pan agorir eu drysau ym mis Medi - Rhuthun ar y 13 a 14 a Dinbych ar yr 20 a’r 21.
Mae yna amrywiaeth eang o deithiau cerdded a theithiau tywys, ac mae angen bwcio rhai ohonyn nhw, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn bwcio’n fuan rhag cael eich siomi.
Mae’r gweithgareddau sydd am ddim bob penwythnos yn cynnwys:
Yng Ngharchar Rhuthun gallwch weld carcharorion - gŵr a merch yn cael eu ‘Halltudio o’r Carchar’.
Bydd artist mosaig, Tricia Jones, wrth law yn annog ymwelwyr i’w helpu i greu mosaig am garcharorion yn cael eu halltudio i wledydd pell.
Bydd Castell Dinbych yn cynnal digwyddiad ‘Y Llawfeddyg o Farbwr a Scabius Corpus’.
Mae yna ddwy arddangosfa’n cael eu cynnal yng Nghanolfan yr Iaith Gymraeg yn Ninbych - un yn dangos radio ‘Arddangosfa Llinell Amser yr Iaith Gymraeg’ a ‘Weiarles yng Nghymru’ - amcan yr arddangosfa newydd hon yw adrodd stori darganfyddiad a datblygiad cynnar ‘weirales’ a’r cysylltiadau unigryw gyda Chymru ac arloeswyr Cymreig y radio.
I ddarganfod mwy am yr hyn sydd ar gael ewch i’r wefan ar
www.valeofclwydheritage.org.uk <http://www.valeofclwydheritage.org.uk>. I fwcio un o’r teithiau a/neu archebu eich arweinlyfr am ddim, ffoniwch 01824 705274 / 01745 816313 neu e-bost
heritageinitiative@denbighshire.gov.uk <mailto:heritageinitiative@denbighshire.gov.uk>.
Neu os hoffech chi wirfoddoli yn ystod un o’r penwythnosau, yna ffoniwch Helen Calder ar 01824 708030
Mae’r Dyddiau Treftadaeth Ewropeaidd yn fenter gan Gyngor Ewrop
Gyda’i lansio yn 1991, y llynedd fe ymwelodd dros 20 miliwn o bobl â’r holl brif safleoedd drwy Ewrop. Yng Nghymru, caiff y Dyddiau Treftadaeth Ewropeaidd eu cydlynu ar ran Cadw - adran amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru - gan Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru.
Mae’r penwythnosau’n bosib oherwydd ymdrechion cyfunol Cymdeithas Ddinesig Dinbych, Cymdeithas Ddinesig Rhuthun, Cyngor Tref Dinbych a Chyngor Sir Ddinbych yn ogystal â chyfraniad y perchnogion a’r gwirfoddolwyr.


Rhoi adborth ar y tudalen hon