| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
08/18/2008 - Sialens ‘Chitty Chitty Bang Bang’ i dîm gweithwyr y Cyngor

Bydd aelod o staff Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ddinbych yn mynd ar y ffordd yn ddiweddarach y mis yma ar gyfer reid elusen sy’n o wahanol.

Bydd Loraine Jackson, ei mab a dau o ffrindiau’n cymryd rhan yn y daith ‘Banger’, a elwir yn ‘Sucata Run’ o Rouen yn Normandi, Gogledd Ffrainc.  Byddant yn gyrru 2000km ar draws Ffrainc, Sbaen a gorffen yn Cabon da Roca ym Mhortiwgal.  Mae eu taith epig yn cychwyn ar ddydd Iau, Awst 21 ac yn gorffen ar ddydd Sul Gŵyl y Banc.

Mae aelodau’r tîm wedi prynu hen racsyn o gar rhad ar gyfer y ras a byddant yn teithio i Dover cyn croesi i Calais a’r daith ymlaen i Normandi.

Byddant yn codi arian ar gyfer elusen Gemin- i sy’n gweithio tuag at ddarparu addysg i blant mewn gwledydd sy’n datblygu.

Meddai Loraine, sy’n gweithio gyda Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych yn Rhuthun, ond sy’n byw yn y Treuddyn: "Rydym yn cymryd addysg yn ganiataol yn y wlad yma ond mae rhai o’r plant yn y gwledydd sy’n datblygu’n gorfod gweithio diwrnod llawn cyn dechrau’r ysgol.  Yn aml yr ysgol yw’r unig le lle caiff y plant hyn bryd o fwyd poeth.  Dyna pam yr ydym wedi penderfynu cefnogi’r achos haeddiannol hwn mewn ffordd unigryw iawn ac rwy’n siŵr y cawn ni lot o hwyl ar y ffordd.

"Mae gen i deimladau cymysg am y sialens.  Rwy’n falch iawn o allu darparu cefnogaeth, ond fe fydd yn rhaid i ni gysgu mewn pebyll yn ystod y ras i gadw’r costau i lawr ac fe fydd yn ras wirioneddol yn erbyn amser i gyrraedd y llinell derfyn."

Bydd y tîm yn un o 87 o grwpiau sy’n cystadlu yn y rali bedwar diwrnod a bydd gofyn i’r timau gymryd ffotograffau ar hyd y ffordd yn brawf o gymryd rhan.  Mae yna wobr hefyd i’r tîm a fydd angen gwthio eu car bellaf.
Nodyn i olygyddion:  Mae sillafiad ‘Loraine’ yn gywir.
 

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0