| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
08/18/2008 - Tyrfaoedd yn heidio i weld y Superlambanana

Fe ddaeth tua 700 o bobl i fyny i ben Moel Famau ar ddydd Sadwrn, Awst i ymuno yn nathliadau dadorchuddiad swyddogol y Superlambanana.
Fe ddadorchuddiwyd Lambanana Moel Famau yn ystod digwyddiad y Daith Fawr, a drefnwyd i ddathlu’r cysylltiad rhwng Lerpwl a Bryniau Clwyd wrth i’r ddinas ddathlu ei statws fel Prifddinas Diwylliant Ewrop.
Mae’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) ar drothwy drws y ddinas, yn cynnig dihangfa o bwysau bywyd modern ac mae gan Fryniau Clwyd gysylltiad diwylliannol cryf â Lerpwl.
Yn ôl yn 1926, dechreuodd cwmni bws Crosville wasanaeth o Lerpwl i Loggerheads a daeth hyn a miloedd o ymwelwyr dydd, gan greu cysylltiad sy’n dal yn bod heddiw.  Yn ystod y rhyfel roedd yr ardal hefyd yn gartref i lawer o faciwîs.  Yn ddiweddarach, mae miloedd o bobl o Lannau Merswy wedi treulio amser yng Ngholomendy, Canolfan Addysg Cyngor Dinas Lerpwl yn Loggerheads a byddant wedi cerdded i’r Tŵr Jiwbilî ar gopa Moel Famau fel rhan o’u harhosiad.
Fe ymunodd rhai o’r plant hynny â’r Daith Fawr.  Dywedodd un preswylydd o Aigburth a ymwelodd yn gyntaf pan oedd yn blentyn ac sydd wedi ymweld yn rheolaidd â Moel Famau byth ers hynny, ei bod wedi teimlo erioed fod Moel Famau’n “rhan arbennig iawn o Lerpwl.”
Cafodd cerddwyr a oedd am weld y superlambanana eu mesmereiddio gan synau drymwyr Batala Brasilaidd Lerpwl sydd eisoes wedi perfformio ledled Prydain.  Wedi eu perfformiad, dywedodd un o’r drymwyr mai “…..Moel Famau yw’r lleoliad harddaf yr ydym wedi perfformio ynddo hyd yma!”
Meddai’r Cynghorydd David Thomas, aelod arweiniol Cabinet Sir Ddinbych dros Adfywio:  “Roedd yna awyrgylch carnifal go iawn ar gyfer y digwyddiad i fyny ar ben Moel Famau ac mae’r holl bartneriaid a oedd yn ymglymedig yn falch iawn o allu dathlu’r cysylltiadau agos rhwng yr ardal a Lerpwl.
“Gobeithiwn y bydd pobl yn manteisio ar y cyfle i ddod yn ôl i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a phrofi’r hyn sydd gan yr ardal hardd hon i’w gynnig.”
Meddai Claire Mc Colgan, Cynhyrchydd Gweithredol Cwmni Diwylliant Lerpwl: “Mae’n ffantastig, am ddigwyddiad ardderchog! Roedd yn fendigedig gweld pobl o Lerpwl yno, heidiau o bobl o Gymru ac mae’r Superlambanana wedi cipio dychymyg pobl yn lliwiau’r grug, mae’n edrych mor ffantastig ar ben mynydd.”
Trefnwyd y digwyddiad gan Gynghorau Sir Ddinbych a Sir Fflint sy’n rheoli Moel Famau ac AHNE Bryniau Clwyd ar y cyd.  Os bydd y tywydd yn caniatáu, gobeithir y bydd y Moelfamalambanana yn aros ar gopa Moel Famau tan ddiwedd Awst.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0