Pobl ifanc yn cael lle haeddiannol yn Noson Ddathlu Llwyddiannau Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych
Roedd pobl ifanc o Sir Ddinbych gyfan yn cael y sylw mewn seremoni gyda’r nos arbennig fel rhan o Ddathliadau Llwyddiannau Blynyddol Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych yn Neuadd y Dref, Dinbych ar Orffennaf 31.
Fe wobrwywyd Tystysgrif Prifysgol Plant ac Ieuenctid am y tro cyntaf eleni i bobl ifanc am gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau a drefnwyd gan dîm Gwasanaethau Ieuenctid y sir.
Cyflwynwyd enillwyr â gwobrau mewn sawl categori, yn cynnwys Rhwydwaith y Coleg Agored, Prifysgol y Plant, Gwobr Dug Caeredin, Gwobr Llwyddiant Ieuenctid John Muir a thystysgrifau cydnabyddiaeth fewnol i’r bobl ifanc hynny sy’n gweithio tuag at ennill un o’r gwobrau uchod ar hyn o bryd.
Derbyniodd ymhell dros 100 o bobl ifanc wobrwyon a gyflwynwyd gan Gadeirydd Sir Ddinbych, y Cynghorydd Raymond Bartley a fe’u dathlwyd yn hwyrach gyda disco a bar coctel heb alcohol.
Dymuna’r Gwasanaeth Ieuenctid ddiolch i bawb a oedd yn bresennol ar y noson a’r asiantaethau partner, Prosiect Pobl Ifanc Gorllewin Y Rhyl, Prosiect Ieuenctid Dinbych a Menter Iaith.


Rhoi adborth ar y tudalen hon