Daeth pobl ifanc o rannau cyferbyniol o Sir Ddinbych ynghyd ar gyfer Panel Grŵp Ymgynghorol cyntaf Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych yng Nghanolfan Ieuenctid Prestatyn ar ddydd Mawrth, Awst 12.
Yn y digwyddiad bu pobl ifanc yn fforio cynllun y sir, yn darganfod ffeithiau am Wasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych a dechrau blaenoriaethu’r hyn oedd yn bwysig iddyn nhw am fynychu darpariaeth y Gwasanaeth Ieuenctid ac yn dysgu am reoli’r Gwasanaeth Ieuenctid.
Y brif neges yr oedd y bobl ifanc hyn am ei hanfon at Gyngor Sir Ddinbych oedd eu bod yn awyddus i gyfarfod â chynghorwyr. Byddai hynny’n eu galluogi i esbonio pam eu bod eisiau mwy o ddarpariaeth Gwasanaeth Ieuenctid – yn bennaf er mwyn iddynt gael gwell cyfle i ddysgu a chael achredu’r gwaith hwn fel y gallant wneud gwahaniaeth i’r sir ac i’w bywydau eu hunain.
Gwahoddir y bobl ifanc a fynychodd ddarpariaeth Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych i fynychu pedwar o Baneli Grŵp Ymgynghorol drwy gydol y flwyddyn i helpu’r Gwasanaeth Ieuenctid ymglymu pobl ifanc i gael llais ar y materion sy’n effeithio arnyn nhw.
Am ragor o fanylion ar hyn gall pobl ifanc ofyn i’w gweithwyr ieuenctid ar draws y sir.


Rhoi adborth ar y tudalen hon