Mae Safonau Masnach Sir Ddinbych, mewn partneriaeth â Chroeso Cymru a Chyswllt Defnyddwyr Cymru’n cynnig awgrymiadau gwyliau i ddefnyddwyr yn ystod Wythnos Materion Defnyddwyr Cymru (Awst 18-22)
Bydd llawer o bobl yn edrych ymlaen at wyliau blynyddol, p’run ai gartref neu dramor, fel cyfle i gael ysbaid haeddiannol, i ymlacio a chael hwyl, ac fe all fod yn siomiant mawr, yn llesteiriol ac yn ddrud os bydd pethau’n mynd o’u lle.
Ydych chi’n ymwybodol o hawliau, yr hyn y gallwch chi ei wneud i leihau’r siawns o brofiad gwyliau drwg ac o golli arian?
Pan fydd pobl yn bwcio gwyliau, maent yn ymgymryd â chytundeb ac mae’r gyfraith yn rhoi hawliau arbennig a diogelwch i chi. Isod mae gwybodaeth am eich hawliau defnyddiwr
•Diffinnir y term ‘gwyliau pecyn’ yn gyfreithiol fel gwyliau gyda chyfuniad a drefnwyd eisoes o o leiaf ddwy o’r elfennau canlynol: llety, cludiant, gwasanaethau twristiaeth eraill (heb fod yn ategol i gludiant neu lety) sy’n cyfrif am gyfran sylweddol o’r pecyn.
•Mae’r diffiniad yn cwmpasu gwyliau a werthir, neu a gynigir ar werth, am bris cynhwysol ac sydd am gyfnod o fwy na 24 awr, neu’n cynnwys llety dros nos.
•Mae’r Rheoliadau’n gosod allan gyfrifoldebau cyfreithiol y gweithredwr tuag atoch chi, yr hyn y mae gennych hawl iddo pe byddai i’r gweithredwr fethu ag anrhydeddu’r oblygiadau hynny ac os gwneir unrhyw gynrychioliadau neu ddisgrifiadau ffug neu gamarweiniol am y gwyliau, y gwesty neu’r cyfleusterau gan y gweithredwr neu ei gynrychiolydd.
•Fe ddylech dderbyn gwybodaeth arbennig cyn cwblhau’r cytundeb, fel: gwybodaeth gyffredinol am ofynion pasbort a visa, gwybodaeth ar ffurfioldeb iechyd; trefniadau ar gyfer diogelu’r arian a dalwch chi, fel bondin i’ch dychwelyd os aiff y gweithredwr taith yn fethdalwr tra eich bod i ffwrdd.
•Hefyd, mewn da bryd cyn i chi fynd ar eich gwyliau, fe ddylech fod wedi derbyn gwybodaeth ar amseroedd teithio, manylion cyswllt y cynrychiolydd taith neu fanylion cyswllt arall os na ddarperir cynrychiolydd, a gofynion yswiriant.
•Os na fyddwch yn prynu ‘pecyn’, er enghraifft byddwch yn bwcio eich hediad, eich gwesty etc. ar wahân, ar y rhyngrwyd dyweder, ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys.
Mae Deddf Cyflenwad Nwyddau a Gwasanaethau 1982 yn gosod allan ddyletswyddau a chyfrifoldebau cyffredinol gwerthwr sy’n darparu gwasanaeth. Mae gennych hawl i ddisgwyl fod y gwyliau o safon resymol, fel y’i disgrifiwyd, a bod trefnydd y gwyliau’n darparu gwasanaeth gyda ‘gofal a sgil rhesymol'.
Mae Deddf Telerau Cytundeb Annheg 1977 a Rheoliadau Telerau Annheg mewn Cytundebau Defnyddwyr 1999 yn caniatáu i chi herio unrhyw delerau a allai fod yn annheg neu afresymol, wedi eu pwyso’n annheg yn eich erbyn, neu’n amwys. Fe ddylai telerau cytundeb safonol fod wedi eu hysgrifennu mewn iaith glir, ddealladwy. Mae’n anghyfreithlon bod â thelerau cytundeb sy’n ceisio cyfyngu ar eich hawliau cyfreithiol ac ni ddylai unrhyw delerau osgoi cyfrifoldeb am farwolaeth neu niwed personol.
Y CYTUNDEB –
•Os byddwch chi’n bwcio eich gwyliau gyda gweithredwr taith, drwy asiant teithio, bydd eich cytundeb gyda gweithredwr y daith, a fydd yn gorfod derbyn cyfrifoldeb am bob elfen o’r gwyliau. Ystyrir bod yr asiant teithio’n gweithredu ar ran gweithredwr y daith, ond mae ganddo gyfrifoldeb hefyd i sicrhau ei fod yn gweithredu gweinyddiaeth y bwciad yn gywir ac yn effeithlon. Hefyd, fe all yr asiant teithio fod yn atebol i chi am unrhyw ychwanegiadau nad oes ganddynt unrhyw berthnasedd i’r gwyliau yn y llyfryn, fel cyfnewid arian a threfnu parcio mewn maes awyr. Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r gwahanol berthynas rhyngoch chi â’r gweithredwr taith a’r asiant teithio ac i wybod pwy sy’n atebol am beth.
•Os oes gennych unrhyw geisiadau arbennig, gwnewch yn siŵr eich bod wedi eu mynegi’n benodol, yn ysgrifenedig, ar y ffurflen fwcio. Darllenwch delerau ac amodau’r bwciad. Maen nhw yna am reswm ac, unwaith y byddwch wedi bwcio’r gwyliau, mae’r gyfraith yn cymryd eich bod wedi eu darllen a’u derbyn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw copi ohonyn nhw.
•Os byddwch chi’n bwcio eich gwyliau ar-lein, printiwch gopi caled o bob dogfennaeth berthnasol yn y fan a’r lle. Defnyddiwch wefan sydd â chyfleuster talu diogel yn unig.
•Yn fuan ar ôl i chi wneud y bwciad cychwynnol, fe ddylech dderbyn rhybudd o gadarnhad. Mae’n hanfodol eich bod yn gwirio hwn yn ofalus, gan mai dyma’r prawf o’r cytundeb a’r hyn yr ydych wedi ei fwcio. Gall nodi problemau yn y cyfnod yma osgoi llawer o drafferthion a gofidiau yn nes ymlaen.
•Fe fyddwch wedi ymgymryd â chytundeb heb unrhyw hawl canslad awtomatig. Os bydd yn rhaid i chi ganslo, mater yswiriadwy, byddwch yn gorfod talu cosb, fel y’i mynegir yn amodau’r bwciad.
Yswiriant
•Mae’r rhan fwyaf o weithredwyr taith yn mynnu fod gennych yswiriant digonol pan fyddwch yn bwcio.
•Cofiwch fynd â’ch Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd efo chi wrth deithio mewn gwlad yn Ardal Economaidd Ewrop neu’r Swistir.
•Os byddwch chi’n poeni y bydd yn rhaid i chi ganslo gwyliau, efallai y dylech ystyried cael yswiriant canslo.
Hediad yn unig
•Os byddwch yn bwcio hediadau’n unig, gofynnwch a yw’r asiant, neu unrhyw gyfryngwr y bydd yn ei ddefnyddio, ag ATOL (Trwydded Trefnwyr Teithio Awyr) Arwyddir y drwydded hon gan yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) a dyma eich gwarant o ddiogelwch ariannol.
Am wybodaeth bellach ewch i wefan Defnyddwyr yn Gyntaf (www. consumerdirect.gov.uk) neu ffoniwch 08454 040506.

Rhoi adborth ar y tudalen hon