| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
08/20/2008 - Cyngor i ddefnyddwyr ar gwynion am wyliau

Mae Safonau Masnach Sir Ddinbych wedi ymuno ag unedau safonau masnach drwy Gymru, Croeso Cymru a Chyswllt Defnyddwyr Cymru i gynnig cyngor a gwybodaeth am y ffordd i gwyno am eich gwyliau.

Fe gyhoeddwyd y cyngor hwn yn ystod Wythnos Materion Defnyddwyr Cymru (Awst 18-22)

Os byddwch chi’n cymryd gwyliau, cyn i chi fynd:
•Cymerwch amser i ddarllen yr holl delerau a’r amodau cyn i chi fwcio.
•Gwnewch dipyn o waith ymchwil - am y lle yr ydych yn ymweld ag o - ydi o’n addas ar eich cyfer chi a’ch teulu?
•Mynnwch unrhyw anghenion arbennig ar ddu a gwyn cyn i chi fwcio
•Ewch â chopi o’r bwciad a’r llyfryn efo chi ar eich gwyliau.

Pan gyrhaeddwch chi yno:
•Siaradwch â’ch cynrychiolydd neu’r rheolwr
•Rhowch unrhyw gŵyn ar ddu a gwyn cyn gynted ag sydd bosib
•Cymerwch ffotograffau neu dystiolaeth fideo
•Cymerwch gyfeiriadau pobl eraill sydd ar y gwyliau ac sy’n awyddus i gwyno

Pan gyrhaeddwch chi gartref:
•Anfonwch lythyr yn cwyno yn syth
•Ceisiwch gyngor gan Gyswllt Defnyddwyr neu Safonau Masnach.
Am gyngor cwsmeriaid clir, ymarferol dwyieithog ffoniwch Cyswllt Defnyddwyr ar  08454 04 05 06.  Gellir cysylltu hefyd â Thîm Safonau Masnach Sir Ddinbych ar  01824 706057 neu ar e-bost dcc_tradingstandards@denbighshire.gov.uk.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0