| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
08/21/2008 - CCTV yn helpu yn y frwydr yn erbyn trosedd


Mae ffilm a gipiwyd ar system CCTV Sir Ddinbych wedi chwarae rhan fawr yn restiad dau o ddynion a gafodd eu carcharu am gicio gwylan y môr a oedd wedi ei hanafu i farwolaeth.

Cafodd yr heddlu eu rhybuddio o’r digwyddiad yn Y Rhyl wedi i weithredwyr CCTV a oedd yn gweithio yn ystafell reoli fodern CCTV Sir Ddinbych weld y digwyddiad a recordiwyd ar y system CCTV.

Mae gan gynllun CCTV Canol Trefi Cyngor Sir Ddinbych gyfanswm o 84 o gamerâu sy’n cael eu monitro 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos gan dîm o Weithredwyr profiadol.  Mae’r gwasanaeth gwerthfawr hwn yn cael ei redeg o ganolfan fodern sy’n un o’r cynlluniau mwyaf modern o’i bath yn y DU.  Gyda 22 o fonitorau unigol a phump o sgriniau mawr yn cymryd mewnbwn o’r camerâu, mae’n chwarae rhan fawr yn sicrhau diogelwch preswylwyr ac ymwelwyr ar strydoedd Y Rhyl, Prestatyn a Rhuddlan.

Mae’r cynllun yn cynnwys set o gyfarpar a gweithdrefnau a all helpu i atal ymddygiad troseddol neu wrthgymdeithasol, canfod trosedd a recordio delweddau y gellir eu defnyddio ar gyfer erlyniadau yn y dyfodol.

Meddai’r Cynghorydd Sharon Frobisher, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Gymunedau: 'Drwy weithio mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru a chael cysylltiadau uniongyrchol â’u hystafell reoli, gellir adrodd unrhyw droseddau a ganfyddir yn syth, ac mae’n cynyddu’r tebygolrwydd o restio troseddwyr.  Hefyd, drwy gael cysylltiad â chynlluniau Adwerthu Canol y Dref a ‘Rhyl Rules Radio’, gall adrodd unrhyw droseddau pellach a ganfyddir i’r heddlu a’u monitro gan y camerâu.”

Meddai Simon Billington, Uwch-arolygydd CCTV: 'Mae’r system CCTV yn declyn defnyddiol i ganfod trosedd a lleihau ofn trosedd.  Fe gipiwyd y digwyddiad atgas yma yn Y Rhyl ar CCTV a gallem ddarparu Heddlu Gogledd Cymru â chopi DVD o’r digwyddiad yn llawn.  Canlyniad y cydweithrediad agos rhwng staff y CCTV a Heddlu Gogledd Cymru oedd i’r ddau ddyn gael eu restio a’u dwyn i’r llys.
'Mae’r system wedi cael sawl llwyddiant mewn blynyddoedd diweddar. Rydym wedi gallu hysbysu’r heddlu o anhrefn cyhoeddus ac rydym hyd yn oed wedi lleoli pobl a oedd ar goll.  Rydym yn hynod o falch o allu gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru a phartneriaid eraill i wneud ein cymunedau’n ddiogelach ar gyfer preswylwyr, ymwelwyr ac, yn yr achos hwn, bywyd gwyllt lleol.'
Meddai’r Rhingyll Rob Taylor ar ôl y gwrandawiad 'Roedd hwn yn achos anghyffredin a oedd yn dangos creulondeb graffig a haerllug yn erbyn aderyn diamddiffyn.  Roedd dangos y ffilm CCTV i’r llys cyn y ddedfryd yn effeithiol iawn, gyda rhai gwylwyr yn gorfod troi i ffwrdd o atgasedd ac anghrediniaeth.  Rwyf wedi fy mhlesio gan y ddedfryd ac mae’n anfon neges glir na fyddwn yn goddef ymddygiad o’r fath a byddwn yn ymchwilio ac yn erlyn troseddwyr.'

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0