Mae Safonau Masnach Sir Ddinbych yn annog busnesau i ystyried y ffordd y maent yn delio â chwynion.
Waeth pa mor dda y gweithredir y busnes, mae’n debygol y bydd yn derbyn cwyn gan rywun rywbryd. Fe all y ffordd y delir â’r gŵyn honno effeithio ar fusnes pellach gan y cleient hwnnw ac fe all arwain at sylwadau negyddol parhaus amdanoch chi.
Yn nhermau marchnata, awgrymir ei bod yn costio pum gwaith yn fwy i ddenu busnes ‘newydd’ nag i gadw busnes sy’n bod yn barod. Felly mae delio â chwyn yn deg, yn gyflym ac yn effeithlon nid yn unig yn ofal cwsmeriaid da, ond mae hefyd â photensial i fod yn gost effeithiol.
Weithiau fe all cwyn fod yn gymharol fychan ond fe all ddwysáu, oherwydd nad oes gan y person sy’n delio â hi awdurdod i ddelio’n effeithiol â’r mater yn y fan a’r lle. Efallai y dylai busnesau ystyried, o fewn terfynau, dirprwyo’r gallu i wneud penderfyniadau, a gweithredu’n bositif, i rai o’u staff rheng flaen i ddelio â rhai cwynion lefel isel.
Os ydych chi’n aelod o gymdeithas fasnach, sefydliad cefnogi busnes neu Groeso Gymru, gallwch gael cyngor ar ddelio â chwynion.
Mae’n hawdd colli enw da, ond yn llawer anoddach ei gadw neu ei wella.
Gall delio â chwynion yn dda arbed arian a dargadw busnes. Mae ymchwil yn dangos, hyd yn oed os oes gan gleient gŵyn, os delir â hi yn briodol ac yn gyflym, mae yna siawns dda y gallwch ddal eich gafael ar eu busnes.
Gellir cysylltu â thîm Safonau Masnach Sir Ddinbych ar 01824 706057


Rhoi adborth ar y tudalen hon