Llwyddodd 52.25% o fyfyrwyr Sir Ddinbych i gael 5 neu fwy o raddau A*-C yn eu harholiadau TGAU eleni - gan guro targed y cyngor o 49% a 5% yn uwch na llwyddiant y llynedd.
Llwyddodd 98.4% o ddisgyblion a safodd arholiadau TGAU yn wyth o ysgolion uwchradd Sir Ddinbych yn 2008 i gael pas A*-G - gwelliant o 0.7% ar ganlyniadau 2007. Mae’r cynnydd Cymreig yn 0.4%.
Canran y myfyrwyr a gafodd raddau A*-C yw 61.2%, gwelliant o 2.6% ar y 58.6% a gyflawnwyd yn 2007. Mae’r cynnydd hwn yn Sir Ddinbych yn uwch na’r cynnydd o 2% ar draws Cymru.
Mae canran yr ymgeiswyr a enillodd raddau A* ac A hefyd wedi cynyddu i 15.5%.
Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol y Cabinet dros Ddysgu Gydol Oes, “Yn gyntaf hoffwn longyfarch yr holl fyfyrwyr sydd wedi ennill y graddau yr oedd arnynt eu hangen i barhau â’u haddysg. Mae’r rhain yn ganlyniadau positif sy’n dangos, ynghyd â’r canlyniadau lefel A gwell a gafwyd yr wythnos diwethaf, fod Sir Ddinbych yn symud i’r cyfeiriad iawn ac yn gwella ar raddfa gyflymach na chyfartaledd Cymru. Ein bwriad yw parhau i wneud hynny.
“Rwyf hefyd am longyfarch yr ysgolion a’r athrawon ar eu gwaith caled yn ystod yr amser anodd yma. Mae’r holl ysgolion wedi gweithio’n hynod galed. Mae’n rhaid i mi enwi Uwchysgol y Bendigaid Edward Jones, Y Rhyl sydd wedi dod allan o fesurau arbennig mewn ffordd mor nodedig. Dyma’r ysgol sydd wedi gwella fwyaf wrth gymharu â 2007, gyda chynnydd o 30.85% yn y myfyrwyr a enillodd 5 neu fwy o raddau A*-C.
“Hoffwn hefyd ail-gadarnhau ymrwymiad y cyngor i wella safonau addysg wrth i ni barhau i wneud moderneiddio addysg yn un o’n prif flaenoriaethau.”

Rhoi adborth ar y tudalen hon