| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
08/22/2008 - Rhybudd o sgâm loteri Sbaenaidd


Rhybuddir trigolion o sgâm loetri Sbaenaidd sy’n targedu pobl sy’n byw yn Sir Ddinbych.


Cysylltwyd â Thîm Safonau Masnach Cyngor Sir Ddinbych sawl gwaith am lythyrau’n hawlio eu bod gan sefydliadau fel El Gordo - Loteri Genedlaethol Sbaen.


Mae’r llythyrau’n hawlio ei bod yn bosibl fod y derbynnydd wedi ennill swm mawr o arian ac y dylent gysylltu ag asiant hawlio i gael trosglwyddo eu gwobr i’w cyfrif banc.


Yna gofynnir am fanylion personol a allai arwain wneud y derbynnydd yn ddioddefwr twyll, heb dderbyn unrhyw arian wedyn.


Meddai Tony Young, Prif Swyddog Safonau Masnach Sir Ddinbych: “Sgam yw’r llythyr yma a dylid ei anwybyddu.  Mae bron yn amhosib ennill cystadleuaeth neu loteri nad ydych wedi cymryd rhan ynddi.  Yn anffodus y bobl sy’n fwyaf agored i niwed sy’n dioddef oherwydd sgâm fel hyn a byddwn yn annog pawb i fod yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth.  Loteri El Gordo yw loteri swyddogol Sbaen ac mae’n agored i breswylwyr Sbaenaidd yn unig.  Nid oes yna unrhyw gysylltiad rhwng y rhai sy’n cyflawni’r sgâm yma â loteri ddilys El Gordo.  Ni fyddai unrhyw loteri na chystadleuaeth bona fide, yn mynnu ffioedd yn gyntaf.  Peidiwch byth ag anfon arian, na rhoi eich manylion ariannol personol, mewn ymateb i unrhyw alwad neu bost digymell.”


Mae Penaethiaid Cymreig Safonau Masnach wedi sicrhau ariannu i greu tîm pwrpasol a elwir yn ‘Scambusters’, i ganolbwyntio ar sgamiau fel hyn sy’n gweithredu gan fwyaf o dramor.


Os ydych chi wedi derbyn un o’r llythyrau hyn, neu unrhyw beth y byddwch yn amau sy’n sgâm ac fe hoffech gyngor pellach cysylltwch â Chyswllt Defnyddwyr Cymru ar 08454 040506 (Lein Saesneg), neu 08454 040505 (Lein Gymraeg)


 

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0