| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
08/22/2008 - Y Cyngor ben ac ysgwydd uwchben y dyrfa yn sioe’r sir

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn dathlu cael eu henwi’n gyd-enillwyr gyda Chyngor Sir Fflint yng nghystadleuaeth y stondin anamaethyddol orau yn Sioe Dinbych a Fflint eleni, a gynhaliwyd yn y Green ddoe (Iau).

Sir Diwylliant oedd y thema a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar gyfer eu presenoldeb yn y digwyddiad blynyddol ac yr oedd yn ffurfio rhan o raglen gydlynol o weithgareddau sy’n cael eu llwyfannu yn Sir Ddinbych eleni i hyrwyddo’r cysylltiadau diwylliannol rhwng y sir a Lerpwl, Prifddinas Diwylliant Ewrop 08.

Cafodd ymwelwyr â’r babell brofi egwyl o gerddoriaeth gyda’r delynores Nia Parry o Dremeirchion, roedd Triawd o Ensemble Cymru’n perfformio cerddoriaeth glasurol i hyrwyddo Gŵyl Gerddorol Ryngwladol Gogledd Cymru a bu’r adroddreg straeon Cath Aran yn diddanu’r plant gyda’i sesiynau adrodd stori unigryw.  

Roedd tîm grug a bryngaerau’n bresennol i hyrwyddo’r gwaith a wneir i ddiogelu rhostir grugog a bryngaerau Bryniau Clwyd a Mynydd Llandysilio.

Roedd yno arddangosfeydd yn hyrwyddo atyniadau fel Plas Newydd (Llangollen) a Nantclwyd y Dre (Rhuthun), yn ogystal â dangos ailddatblygiad Canolfan Grefft Rhuthun a agorwyd yn ddiweddar.

Creodd Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych dŷ crwn y tu allan i’r babell lle buont yn hyrwyddo eu gwaith cadwraethol tra’r oedd Cynnyrch Pren Meifod, sy’n ffurfio rhan o Wasanaeth Anabledd Dysgu Sir Ddinbych yn hyrwyddo eu cynnyrch pren.

Manteisiodd y Cyngor ar y cyfle i ofyn i bobl yn y sioe am eu barn ar faterion amgylcheddol ac am y blaenoriaethau corfforaethol.

Meddai’r Cynghorydd David Thomas, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Adfywio: "Roeddem yn falch iawn o gael ein gwobrwyo’n gyd-enillwyr y stondin anamaethyddol orau yn y sioe.

“Mae’r Cyngor wedi cynnig cefnogaeth ariannol ac ymarferol i drefnwyr y sioe yn y misoedd diwethaf ac rydym yn hynod o falch o weld cymaint o bobl yn cefnogi’r sioe er gwaetha’r glaw a’r mwd.
"Manteisiodd llawer o bobl ar y cyfle i ymweld â’n pabell a dysgu mwy am atyniadau a gweithgareddau diwylliannol a’n gobaith yw y bydd wedi codi awydd ar fynychwyr y sioe i brofi peth o ddanteithion diwylliannol y sir.”

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0