| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
08/22/2008 - Galw am enwebiadau sgiliau busnes ar gyfer Gwobr y Frenhines


Mae Cyngor Sir Ddinbych yn annog enwebiadau ar gyfer Gwobr y Frenhines am Hyrwyddo Menter yn 2009.

Cyflwynwyd y Wobr yn 2004 i ddathlu a chydnabod gweithgareddau unigolion sydd wedi chwarae rhan arbennig ac arwyddocaol yn hyrwyddo sgiliau ac agweddau busnes mewn eraill yn y DU.

Mae’r trefnwyr yn chwilio am
• entrepreneuriaid, pobl fusnes, dyfeiswyr ac arloeswyr sy'n rhoi eu hamser ac, o bosib gefnogaeth ariannol, i entrepreneuriaid potensial eraill p’run ai ydyn nhw’n dal mewn addysg neu yng nghyfnod sefydlu/tyfu busnes.
•Y rheiny sydd mewn addysg, hyfforddiant a gwaith ieuenctid sy’n darparu pobl o bob oed, yn enwedig yr ifanc, â sgiliau ac agweddau busnes
•Y rheini sydd ynghlwm â busnes cymdeithasol sy’n cyflawni canlyniadau busnes neu’n cyfarparu eraill â sgiliau busnes.

Gellir dod o hyd i ffurflenni enwebu, ynghyd ag astudiaethau achos enghreifftiol o wobrau 2008, ar www.queensawards.org.uk  Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw Hydref 31, 2008.  Cyhoeddir manylion am yr enillwyr ar ben-blwydd y Frenhines ar Ebrill 21, 2009.
Fe wahoddir y derbynnydd, gwestai ac enwebydd y derbynnydd i dderbyniad ym Mhalas Buckingham lle y cyflwynir y Wobr.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0