| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
08/26/2008 - Baner trosglwyddo’r gemau Olympaidd yn cael ei chodi dros Sir Ddinbych i ddathlu’r Diwrnod Trosglwyd

Baner trosglwyddo’r gemau Olympaidd yn cael ei chodi dros Sir Ddinbych i ddathlu’r Diwrnod Trosglwyddo
Fe godwyd Baner Trosglwyddo’r Gemau Olympaidd yn Neuadd y Sir, Rhuthun dydd Sul, Awst 24 i ddathlu’r foment y daeth Llundain yn Ddinas Nawdd y Gemau Olympaidd yn swyddogol.
Am y tro cyntaf yn hanes y Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd, fe godwyd baner eiconig Trosglwyddo’r Gemau Olympaidd i Lundain ar yr un pryd â rhanbarthau eraill o gwmpas y DU.
Mae Baner Trosglwyddo’r Gemau Olympaidd yn Rhuthun yn un o dros 500 o faneri a ddargludwyd i leoliadau yn cynnwys Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi, llysgenadaethau rownd y byd, Neuaddau Dinesig, swyddfeydd Cyngor Prydeinig a swyddfeydd Tramor a swyddfeydd y Gymanwlad.
Mae Sir Ddinbych, Sir Diwylliant 2008 yn ceisio bod yng nghalon Olympiad Diwylliannol Cymru dros y pedair blynedd nesaf ac mae Andrew Logan, un sy’n arddangos yng Nghanolfan Grefft Rhuthun sydd newydd ail-agor wedi addo dychwelyd i Ruthun i drefnu digwyddiad Olympiad Diwylliannol eiconig.
Mae swyddogion yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen hefyd wedi ymrwymo i gynllunio Eisteddfod Ryngwladol “Olympaidd” arbennig yn 2012, i sicrhau bod y digwyddiad, sy’n capswleiddio’r ysbryd Olympaidd yn llwyr, yng nghalon y cyfraniad Cymreig i 2012.  Bydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn anelu hefyd at gael perfformwyr ymweld o gymaint o’r gwledydd Olympaidd ag sydd bosib i berfformio yn Llangollen yn y pedair blynedd nesaf.
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Raymond Bartley, “Mae’r cyngor yn hynod o falch o chwifio’r faner ar gyfer gemau Llundain 2012 a darparu cefnogaeth i’r Pwyllgor Trefnu i godi proffil y digwyddiad mawreddog hwn.
“Bydd y DU yn elwa o ran diwylliant, chwaraeon a thwristiaeth a gobeithiwn y bydd Gogledd Cymru a Sir Ddinbych yn benodol yn elwa o ddigwyddiad byd-eang mor bwysig yn cael ei lwyfannu mor agos at gartref.”
Ymysg y lleoliadau yn y DU, fe godwyd y Baneri Trosglwyddo Olympaidd mewn ardaloedd nodedig fel Unst yn Ynysoedd Shetland, y pwynt mwyaf gogleddol yn y DU a Land’s End yng Nghernyw, y pwynt mwyaf deheuol.  Codwyd baneri hefyd yn Lowestoft, y dref fwyaf dwyreiniol yn Lloegr ac Ynysoedd Scilly, y pwynt mwyaf gorllewinol.  
Meddai Cadeirydd Pwyllgor Trefnu Llundain 2012, Sebastian Coe: ‘Pan dderbyniodd Maes Llundain y Faner Olympaidd ar Awst 24, fe drodd llygaid y byd ar Lundain a’r DU fel y Ddinas Nawdd Haf nesaf.  Mae’n foment bwysig a chyffrous iawn i ni, ac rydym am i gymaint o bobl ag sydd bosib ymuno yn nathliadau’r Trosglwyddo.  Rydym yn hynod o falch fod cymaint o awdurdodau lleol yn rhannu ein cyffro gan arddangos y Faner Drosglwyddo Olympaidd yn falch i farcio’r foment arbennig yma ar ein taith tuag at 2012.”

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0